Bu'n aros yn Pennsylvania ag Efrog Newydd. Tra yn yr 'Afal Mawr', ymwelodd â sawl man enwog gan gynnwys lleoliad '9/11', 5th Avenue, Central Park, adeilad yr Empire State, Canolfan Rockerfeler, a Broadway - ardal y theatrau, a chiniawa yng ngwesty enwog y Playwrights, lle mae actorion America, a Prydain sy'n ymddangos ar y llwyfannau yn ymlacio.
Tra ym Mhennsylvania, bu yn nhre' enwog Bethlehem, lle roedd, unwaith, waith dur mwyaf y byd. Bu hefyd ym Maenor Pennsbury, cartref William Penn, sefydlydd Pennsylvania a dinas Philladelphia.
Dros chwarter canrif yn ôl yn nrama gyfres teledu Â鶹Éç Cymru, addasiad o nofel lwyddiannus Marion Eames, Y Rhandir Mwyn, Huw Tudor chwaraeodd ran Thomas Holme. Ef oedd y gŵr benododd Penn yn brif oruchwyliwr ac asiant ei stad yn Penn-Silvana bryd hynny.
Derbyniodd William Penn, yn 1682, dros ddeugain mil o aceri o dir yn America, ar lan yr afon Delaware, fel tâl gan Frenin Lloegr, Siarl yr Ail, am ddyled a oedd arno i'w dad. Gwaith Thomas Holme, gyda'r holl hawl oedd rhannu'r tir, os oedd angen, i newydd-ddyfodiaid.
Crynwr oedd Penn, a thrwy hynny y derbyniodd mintai o Gymry dir, fel eiddo iddynt am byth. Crynwyr o ardal Dolgellau.
Bydd Huw Tudor yn dychwelyd i'r America fel gwestai, eto eleni, i ymweld â Washington a Virginia. Tra'n Virginia mae'n gobeithio ymweld â bedd 'Goronwy Ddu o Fôn' - bardd mwyaf y ddeunawfed ganrif - Goronwy Owen. Claddwyd gweddillion 'Y Bardd Du' yn ei blanhigfa dybaco ei hun - ei eiddo.
Roedd teulu Dafarn Newydd Uchaf gynt, Llanfaethlu, drwy eu nain, Marged Hughes, Yr Orsedd, yn disgyn o deulu Goronwy Owen.
Nid yw Huw Tudor wedi gwneud gwaith yn y theatr yn ystod y chwe mlynedd diwethaf oherwydd anhwylder.
Yn ddiweddar cwblhaodd ddwy flynedd, trwy wahoddiad, yn eistedd ar Bwyllgor Gwyliadwrol Cyngor Bwrdeisdref Frenhinol Kensington a Chelsea. Mae hefyd yn gasglwr arian trwyddedig i Uned y Galon (Cardiac Unit), Ysbyty Great Ormond Street, i blant gwael, Llundain.
Mae Huw Tudor yn rhestredig mewn sawl bywgraffiad yn rhyngwladol ac yn America.