Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glorian
Catrin Roberts Ennill Ysgoloriaeth
Tachwedd 2009
Catrin Angharad Roberts o Lanbedrgoch ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru eleni.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Theatr Weston, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.

Hi wnaeth yr argraff fwyaf ar y beirniaid yn y gystadleuaeth alaw werin unigol yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Llwyddodd hefyd i gipio Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis am yr Unawd Alaw Werin dros 21 oed yn Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau.

Mae Catrin yn aelod brwd o Aelwyd yr Ynys ac mae hi bellach yn arweinydd a chyd sefydlydd côr meibion newydd sbon Ynys Môn.

Meddai Catrin: "Fedra i ddim diolch digon am y profiad dwi wedi ei gael wrth gystadlu.

"Dwi wedi mwynhau pob munud a does na ddim geiriau i ddisgrifio'r anrhydedd.

"Mae wedi bod yn brofiad arbennig a dwi wedi gwneud ffrindiau oes ar y daith.

"Does dim dwywaith y bydd yr Ysgoloriaeth yn mynd â fi ymhellach ac os y ca i hanner y llwyddiant y mae Bryn Terfel wedi ei gael yna mi fydda i wrth fy modd."

Rydym ninnau yn ymhyfrydu yn ei llwyddiant ac yn falch iawn fod yr Ysgoloriaeth wedi dod i ardal Y Glorian unwaith eto.

Dymunwn bob llwyddiant iddi yn y dyfodol. Y Glorian


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý