Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glorian
Kyffin Williams Oriel Kyffin Williams
Gorffennaf 2008
Daw gweithiau'r arddangosfa gyntaf o gasgliadau cenedlaethol, preifat a chyhoeddus.
Wedi ei lleoli oddi fewn i Oriel Ynys Môn, bydd Oriel Kyffin Williams yn deyrnged barhaol i un o artistiaid enwocaf a mwyaf uchel ei barch yng Nghymru.

Agorir Oriel Kyffin Williams gan Ardalyddes Ynys Môn ar 18 Gorffennaf.

Fel rhan o'r dathliad mae cerflun arbennig wedi cael ei gynhyrchu gan Michael Scheuermann.

Yn ystod yr wythnos agoriadol cynhelir gweithgareddau celfyddydol fydd yn sicr o apelio i nifer.

Mae llyfr arbennig hefyd wedi ei gynhyrchu i glodfori Oriel Kyffin Williams. Mae'r llyfryn hwn yn llawn lluniau o gasgliad Oriel Ynys Môn sy'n cofnodi pethau sy'n gyfarwydd i ni ond hefyd cawn hen ddelweddau pwysig o'r Ynys hon sydd wedi hen ddiflannu.

Yn ogystal a'r darluniau, mae yma nifer o baentiadau olew sydd ymhlith y gorau a gynhyrchodd Kyffin erioed. Mi fydd y llyfr ar werth yn siop Jac Do Oriel Ynys Môn.

Dywedodd deilydd y portffolio Hamdden, y Cynghorydd Eurfryn Davies, "Bydd Oriel Kyffin Williams yn deyrnged addas i lwyddiannau artistig y gŵr ac yn gartre parhaol i dros 400 o ddarnau o waith. Bydd yr Oriel newydd hefyd yn ased ddiwylliannol unigryw a phwysig yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol."

Rhodd hael

Bu Oriel Ynys Môn yn ffodus iawn o gael Syr Kyffin Williams, oedd yn enedigol o Langefni, fel hyrwyddwr i'r celfyddydau ym Môn a bu'n gefnogwr brwd a gweithgar o waith yr Oriel ers ei hadeiladu yn 1991.

Yn ei haelioni, rhoddodd Syr Kvffin Williams dros 400 o weithiau celf gwreiddiol i Orief Ynys Môn, o sgetys i ddarluniau i waith olew sylweddol.

Mae'r Oriel yn diogelu'r casgliad mawr a phwysig hwn a balchder er budd pobl Môn a'i hymwelwyr.

Rhoddodd Syr Kyffin Williams sêl bendith ar y prosiect uchelgeisiol o sefydlu Oriel Kyffin Williams cyn ei farwolaeth ar 1 Medi 2006.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth yn enw Syr Kyffin Williams er mwyn gwireddu'r prosiect.

Bydd yr Ymddiriedolaeth yn parhau i hyrwyddo gwaith Syr Kyffin Williams mewn sawl maes ac yn annog datblygiad gwaith celf artistiaid ifainc yn benodol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý