Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glorian
Y Clwb Hogia'n cyflwyno sieciau i'r Ambiwlans Awyr a Bad Achub Moelfre 'Diolch i'r Hogia'
Mehefin 2005
Hoffai Clwb Hogia Paradwys ddiolch i ddarllenwyr Y Glorian am eu cefnogaeth dros y ddwy flynedd ar hugain a aeth heibio.
Oherwydd diffyg presenoldeb yn y gymdeithas y misoedd diwethaf fe benderfynodd yr ychydig aelodau o'r "Hogia" mai dod i'r gweithgareddau i ben fyddai yr unig ateb ac felly gyda thristwch terfynwyd y mudiad ym mis Ebrill.

Yn ystod y cyfarfod olaf fe gyflwynodd y swyddogion ddwy siec yn Nant yr Odyn, un i'r Ambiwlans Awyr (£500) ac un i Fad Achub Moelfre (£450).

Mae llawer mudiad gwirfoddol wedi cael gymorth gan yr 'Hogia' dros y blynyddoedd ac yn wir fel dywedodd un o'r aelodau: "Peth pleserus iawn oedd cael cyflwyno siec yn enwedig i elusennau lleol". (Clywch, clywch).

Casglwyd ymhell dros £90,000 yn ystod y cyfnod bu'r 'Hogia' mewn bod yn cynnwys siec o £13,000 i 'Apêl Cancr Ysbyty Gwynedd' ar ôl y daith (flinedig, ond pleserus iawn) i nôl gwin o Ffrainc.

Mae'r hogia yn diolch o galon i deulu a staff Glantraeth, Bodorgan, a fu'n edrych ar eu hôl yn y blynyddoedd cynnar ac wedyn i berchnogion a staff Nant yr Odyn am eu caredigrwydd yn ystod y blynyddoedd olaf.

Diolch i'r rhai fu mor weithgar yn y gorffennol, yn aelodau a chyn aelodau ac yn enwedig i'r criw bach a fu mor ffyddlon i'r diwedd. Diolch i'r cefnogwyr ym mhobman, y rhai a fu yn ein noddi ac hefyd drwy gyfrannu'n ariannol. Diolch o galon.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý