Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glorian
Yr hen adeilad Shire Hall
Tachwedd 2008
"Newid ddaeth o rod i rod" dyna ddwedais i pan sefais ar frêc y car wrth ddod adra o Langefni ar fora Sadwrn, wrth weld ffens diogelwch o amgylch yr hen le a'r toeau asbestos wedi mynd.

Troais y car i'r maes parcio ac edrych mewn tristwch ar waliau'r swyddfeydd moelion a meddwl am eiriau Crwys yn y 'Border Bach'.


'A briw i'm bron fu cael pwy ddydd heb glercod yn eu plith.'

Wedi'r cwbl ar ôl tri dego0 flynyddoedd yn Llyfrgell y Sir o dan ddylanwad y Shire Hall mae gen i lawer atgof melys am yr hen le.

Pan ddechreuais weithio yno, ofnwn y byddai rhai uwch eu swyddi na mi yn edrych i lawr eu trwynau ar yrrwr fan lyfrgell ond nid felly oedd pethau.

Cofio mynd i'r cantîn am ginio yr wythnosau cyntaf ac wrth rannu bwrdd, o'r clerc isaf hyd at ddirprwy Glerc y Cyngor a llawer pennaeth adran, yr un oedd eu "Croeso aton ni' fel tasai pawb ar yr un lefel.

Idris Davies oedd clerc y Cyngor yr adeg honno a chofiaf iddo fo hyd yn oed fy stopio ar y coridor a gofyn 'Dach chi wedi setlo yn iawn hefo ni?' Ella bod, fel llawer gweithle arall, anghydweld ac ambell ffrae o fewn yr adrannau ond ar y cyfan awyrgylch ddigon hapus ac agosatrwydd redai drwy'r lle.

Byddai rhyw dynnu coes yno yn ddi-baid. Os byddai raid mynd ar neges i ryw swyddfa neu adran, byddai'r tynnu coes yn dod gynta, wedyn wrth gwrs, delio o ddifrif hefo'r neges.

Bu cannoedd yno yn gweithio tros y blynyddoedd ac yn gymorth i deuluoedd lawer.

Syllais ar y drws lle bu miloedd yn troe¬dio trwyddo a'r panel gwydr uwch ei ben ac arbais Cyngor Môn arno.

Oddi mewn, ar y dde, yr ystafell ffôn, ail gartref Nansi Pritchard, Pandy.

Ar y chwith, cownter talu treth yr Adran Ddŵr ac Austin Griffiths, er yn fychan o gorffolaeth yn tor-sythu tu ôk iddo.

Wedyn, 'Education', cyrchfan Nansi Parry, Eirwen Fawr ac Eirwen Fach. Hefyd Elsie Lloyd a Rhiannon Jones, 'School Meals'.

Lawr wedyn heibio mynedfa'r cantîn - teyrnas Miss Jones a Phyllis.

Lawr stepiau wedyn heibio toiledau'r dynion i gyfeiriad y 'Planning' ac i'r chwith eto y 'Finance'.

Diddorol sylwi heddiw fod enw pob Adran fel yr uchod yn Saesneg yr adeg honno fel 'Social Services', 'Health', 'Library', 'Highways', 'Small Holdings', a.y.y.b. ac fel Shire Hall oedd y lle yn cael ei adnabod.

Tasach chi'n gofyn flynyddoedd yn ôl "Lle mae'r Neuadd Sir?" fasai neb yn gwybod.

Adeiladwyd rhan o'r swyddfeydd yma tua dechrau'r ail Ryfel Byd i'r 'War-Ag' fel estyniad i'r hen Neuadd Sir lle roedd Swyddfa'r Heddlu, y Cwrt, Siambar y Cyngor a Swyddfa Clerc y Cyngor.

Wedyn estynnwyd y lle tua diwedd y Rhyfel ar gyfer yr adrannau uchod.

Gofalwr y lle am flynyddoedd oedd Ifan Gruffydd, Rhos y Ffordd, Llangristolus a daeth Hughie Thomas o'r un ardal yn brentis iddo.

Wrth gael ei ddangos o gwmpas ar ei ddiwrnod cyntaf a chyrraedd y Cwrt, meddai Ifan wrtho, "Gofala na fyddi di byth y lle hwn ond i llnau".

Cafodd Hughie ddyrchafiad yn yrrwr llyfrgell deithiol ac ers dechrau'r saithdegau roedd Emrys Williams ar fan darllenwyr caeth i'w tai a minnau ar y fan ysgolion.

Ar fore Sadwrn byddem glanhau'r faniau a chael paned ddeg yn y cantîn gan Jac Parry, y gofalwr. Ymunai Ambrose Pretty a Tegeryn Jones, dau Registra W E. Jones, Addysg a ni hefyd yn y "seiat".

Yno y clywais lu o storiâu am yr hwyl a thynnu coes fyddai yn mynd ymlaen tros y blynyddoedd.

Fel mae llawer wedi dweud pan yn clywed hen stori "Biti na faswn wedi eu recordio".

Efallai y caf siawns i sgwennu r o'r straeon rhyw dro ond dyma un reit ddoniol am y tro.

Yn y Seiat un bore Sadwrn roedd Now Llan Bach yn gwneud te yn absenoldeb Jac Parry, a Hughie yn tynnu ei goes am rywbeth, a dy Now yn dweud, "Ylwch Huw Tomos ella nad ydwi'n ddyn clyfar ond does gen i ddim ofn fi fy hun, fel rhai:" a dyma Hughie yn gwenu a dweud "Ma'r stori yna yn berffaith wir a dyma hi":

Rhwng dwy res o'r adeiladau roedd clwt o dir yn rhedeg ei hyd thua pymtheg troedfedd o led ac wedi ei gau i mewn rhwng 'link corridor' ar un pen a'r toiledau dynion y pen arall lle roedd ffenestr tuag at y clwt tir.

Arferai'r gofalwyr drin y darn yma ar gyfer cynnyrch cantîn. Yr unig fynedfa iddo oedd trwy ffenest y cantîn.

Fell y bu i Ifan a Hughie un pnawn ddechrau palu a'u cefnau at ffenest agored toiledau dynion oedd gryn bellter i ffwrdd. Wedi palu ychydig lathenni wrth eu pwys, edrychodd Ifan yn ôl tuag at y ffenest agored a dweud "Mae na rywun yn ein gwylio ni yn y ffenest na" a dyma ddechrau palu o ddifri gan feddwl fod rhyw glerc bach yn barod i gario clegs amdanynt.

Dyna gael sbel bach eto a'r ddau yn sbio'n ôl at y ffenest tro yma. "Yli", medda Ifan, "mae na ddau yn ein gwylio ni rwan". Ac felly y bu drwy'r pnawn, y ddau yn palu am eu bywyd a'r gwylwyr yn dal yn y ffenest bob tro yr edrychent yn ôl.

Wedi palu digon yn ôl bron at y ffenest ac yn chwys diferol, cawsant allan pwy oedd y gwylwyr.

Ia, roedd drych ar y wal gyferbyn ar ffenestr agored a'r ddau wedi bod yn edrych arnynt eu hunain drwy'r pnawn.

Hawdd ydi chwerthin heddiw ond yr adeg honno roeddech ofn dyn uwch eich pen, tasai o mond sbrigyn o glerc.

Ond wedyn, pam oedd raid iddynt deimlo mor wasaidd? Wedi'r cwbl roedd Ifan Gruffydd wedi ennill ei streipiau yn erchyllterau'r Rhyfel Byd cyntaf a Hughie Thomas yr un modd yn yr Ail Ryfel Byd ac wedi dod adref gydag anrhydedd medal DCM am ddewrder.

John Dewi Pritchard


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý