Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glorian
Eirianm Stephen Williams - Cadeirydd Pwyllgor Ieuenctid Mônsdar Prifwyl yr Urdd ym Môn
Chwefror 2004
Un person sy'n gweithio ac wedi gweithio'n galed iawn gyda'r Urdd yw Cadeirydd y Pwyllgor Ieuenctid - y Mônsdar ei hun - Eirian Stephen Williams.
Cafodd Eirian ei chyflwyno i'r Urdd pan oedd hi'n 4 oed yn Ysgol Gynradd Llandrygarn. Ei phrofiad cyntaf o'r Urdd oedd cystadlu ar yr unawd dan wyth pan oedd yn 4 oed a chael llwyfan yn y cylch ar ôl canu Y Gwanwyn'.Bu yn cystadlu mewn nifer helaeth o gystadlaethau tan iddi gyrraedd 25 oed. Mae hi wedi ennill amryw o wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, enillodd yr ail wobr ym Mro'r Preseli yn 1995 am Unawd i Ferched rhwng 15-19 oed a chafodd gyntaf am stori fer dan 25 yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn 1998.

Eleni caiff y cyfle i gystadlu yng nghystadlaethau i rai hyd at 30 oed drwy Aelwyd yr Ynys - aelwyd newydd sbon sydd wedi ei sefydlu ar Ynys Môn yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod hon. Mae'r Aelwyd yn bwriadu cystadlu mewn amryw o gystadlaethau i Aelwydydd ac wedi cychwyn ymarfer bob nos Sul am 7.30 yng Nghapel Lôn y Felin, Llangefni. Mae croeso i unrhyw un dros 14 oed ymuno.

Mae Eirian yn mwynhau gwneud gwaith gwirfoddol i'r Urdd ac wedi gwneud hynny ers rhyw ddeg mlynedd; dechreuodd drwy stiwardio yn rhagbrofion cerdd pan oedd oddeutu 15 oed.Y gweithgaredd mawr nesaf fydd Noson Gŵyl Ddewi yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi, nos Sadwrn, Chwefror 28. Bydd cyfle i wrando ar gyflwyniad ar y delyn ar gychwyn y noson wedyn bydd bwffe o gynnyrch lleol ac adloniant gan yr enwog Elin Fflur ac un grŵp arall. Bydd hefyd cyfle i fwynhau dawnsio gwerin yn ystod y noson.

Yn ystod yr Eisteddfod ei hun, bydd aelodau Pwyllgor Ieuenctid Mônsdar yn brysur yn helpu gyda chystadlaethau roc a chanu ysgafn, maent hefyd yn bwriadu trefnu gig mawr ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod gan obeithio y daw llawer o bobl ifanc ac Aelwydydd yno i gefnogi.

Am fwy o wybodaeth am y Pwyllgor Ieuenctid a'r gweithgareddau maent yn ei drefnu ffoniwch Swyddfa'r Urdd ar 01248 363100

Rydym yn dymuno'n dda i Eirion a'i phwyllgor gyda phob gweithgaredd yn ystod yr Eisteddfod ac yn gobeithio y bydd y gwaith caled maent wedi ei wneud yn y misoedd diwethaf yn dwyn ffrwyth ac y bydd yr wythnos yn llwyddiant mawr.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý