Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glorian
Rali yn Llundain Rali yn erbyn rhyfel Irac
Mawrth 2003
Trefnwyd pum bws llawn cefnogwyr heddwch gan Grwp Heddwch Bangor ac Ynys Môn i'r rali wleidyddol fwyaf a welwyd erioed yng ngwledydd Prydain ddydd Sadwrn, Chwefror 15fed yn Llundain.

Roedd hi'n amlwg oddi wrth y nifer o fysiau a welsom ar yr M6 ar M1 ar y daith i lawr bod yr orymdaith a'r rali yn mynd i fod yn ddigwyddiad trawiadol iawn.

Gyda'r orymdaith ogleddol yr ymunom ni yn Gower Street ger Euston ychydig cyn hanner dydd. Roedd gweld y mor o bobl yn cario baneri, placiardau a phosteri yn wefreiddiol. Yng nghanol difrifoldeb yr achlysur, roedd lle amlwg i ffraethineb ar y placiardau, er enghraifft, llun o Bush a Blair ar geiriau oddi tanynt Weapons of mass deception, I love Tony... Benn, Make tea not war a llun o gwpan de ar ben Tony Blair. Arwyddocaol iawn hefyd oedd y posteri o gefnogaeth yn ffenestri siopau a thai bwyta ar hyd yr orymdaith. Delwedd gofiadwy iawn ar Shaftesbury Avenue oedd actorion Les Miserables yn eu gwisgoedd yn barod am berfformiad y prynhawn yn chwifio'u cefnogaeth gyda posteri o ffenestri ochr y theatr.

Araf iawn oedd ein symudiau ar waelod Shaftesbury Avenue wrth i'r orymdaith deheuol o'r Enbankment a'n gorymdaith ni gyd-gyfarfod ar Piccadily Circus. Llenwodd y ddwy orymdaith y filltir olaf ar hyd Piccadily, y stryd a'r palmentydd. Pan gyrhaeddom ni Hyde Park am 5.00 or gloch, roedd y rali drosodd ond roedd miloedd ar filoedd y tu ôl i ni ar Piccadily. Hawdd felly oedd credu'r ffigwr o ddwy filiwn o bobl ar y gorymdeithiau ac yn y rali.

Teimlai pawb ar y daith adref eu bod wedi profi digwyddiad hanesyddol iawn. Cyfrifoldeb pob un ohonom yw cynyddu'r pwysau yn erbyn y rhyfel hon dros olew Irac. Ysgrifennwch at Tony Blair, Ieuan Wyn Jones AC ac Albert Owen AS i leisioch barn yn erbyn rhyfelgarwch imperialaidd yr Unol Daleithiol a'r Wladwriaeth Brydeinig. Am fwy o fanylion am weithgaredd Grwp Heddwch Bangor ac Ynys Môn cysylltwch â Phil Steele, Ty Cerrig, Llangoed. Yn ardal Llangefni, cysylltwch â Dylan Morgan, Cwpwrdd Cornel, Canolfan Y Ffowndri, Stryd Fawr, Llangefni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý