Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glorian
Eirian Stephen Jones Is-lywydd newydd
Chwefror 2010
Etholwyd geneth o Fôn, Eirian Stephen Jones, yn un o Is-Lywyddion Newydd Urdd Gobaith Cymru yn ddiweddar.

Mae Eirian yn 32 oed ac yn frodor o Lynfaes, ger Llangefni, ond mae bellach yn byw gyda'i gŵr Arwyn yn Llannerch-y-medd.

Mae hi'n aelod o'r Urdd ers yn 'ddim o beth' ac mae wedi ei magu yng nghanol sŵn cantorion y fro gan fod ei mam, Iona Stephen Williams, wedi bod yn hyfforddi ieuenctid yr ynys ers blynyddoedd lawer.

"Mae bod yn aelod o'r Urdd dros y blynyddoedd wedi magu hyder enfawr ynof i fel unigolyn.

"Mae gan y mudiad gymaint i'w gynnig i bobl ifanc, profiadau dirifedi, teithiau, cyfleoedd i berfformio, cystadlu a chyfle i wneud llu o ffrindiau newydd ar hyd a lled Cymru," eglura Eirian.

"Rydw i'n fa1ch iawn o fod yn rhan o fudiad mor flaengar!"

Derbyniodd Eirian ei haddysg gynradd yn Ysgol Llandrygarn cyn symud yn ei blaen i Ysgol Gyfun Llangefni.

Astudiodd radd Cyfathrebu yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor ac yna dilyn cwrs ymarfer dysgu.

Mae hi bellach yn athrawes yn Ysgol Gynradd Llanddeusant ers pedair blynedd ac yn mwynhau'n arw.

Adran Bentref Bodwrog fu lloches Eirian fel aelod o'r mudiad ac yno cafodd y cyfle i ymgymryd a gweithgareddau amrywiol yr Urdd a chystadlu.

Mae'n mwynhau canu ac mae'n aelod o Barti Gwerin Lobsgows ar yr Ynys.

Dros y blynyddoedd bu Eirian yn hynod o weithgar gyda'r Urdd ym Môn - bu'n Ysgrifennydd Cylch Cefni, yn Gadeirydd Pwyllgor Ieuenctid Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2004 ac mae bellach yn Ysgrifennydd Cylch Alaw Cybi ac yn Ysgrifennydd Eisteddfod Sir dan 12 oed.

"Mae hi'n anrhydedd fawr cael eich ethol i fod yn Is-Lywydd yr Urdd ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle.

"Ces dipyn o sioc wrth glywed y newyddion ond rwy'n edrych ymlaen at gydweithio a phobl ar draws Cymru fel Llysgennad i fudiad ieuenctid Cymru!" meddai Eirian.

Dymuniadau gorau iddi yn y gwaith oddi wrth bawb o fro'r Glorian.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý