Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glorian
Clychau mewn eglwys Cloch Eglwys Llanddyfnan
Mai 2007
Yn ystod haf 2000 fe lwyddodd Dave Wilson a grŵp o Sgowtiaid i ollwng cloch yr eglwys i'r llawr yn ddiogel a'i gosod am y tro yn Stone Science.
Hyn oherwydd fod perygl i'r gloch syrthio drwy do'r eglwys. Yn 2001 aethpwyd a'r gloch i Derby i'w thrwsio a'i gloywi.

Agorwyd cronfa'r gloch yn 2003. Yn y pedair blynedd tyfodd y gronfa a mae'n werth dros un mil ar bymtheg. Codwyd yr arian trwy ymdrechion grŵp archaeolegol Talwm - Mike a'i 'garden party' blynyddol; Dave yn gwerthu llyfrau ail law yn Stone Science a Marianne yn trefnu raffiau.

Amcangyfrif cyntaf (2001) o gost atgyweirio'r gloch oedd £2000 ond roedd yn amlwg fod angen cryfhau'r tŵr a chan nad oedd argoel y byddai hynny'n digwydd yn fuan penderfynwyd cael pris ar drwsio'r gloch yn unig a'i dychwelyd i'r plwyf nes y caed cyfle i'w gosod yn ei gwir le.

Ond cododd problemau. O geisio dod o hyd i enwau'r rhai a luniodd y gloch - doedd y cwmni ddim yn bod mwyach. Doedd y gloch ddim yn Derby. Wrth i'r cwmni gwreiddiol Eayre and Smith uno a chwmni Taylors yn Loughborough fe symudwyd y gloch o Derby i Loughborough.

Collwyd hi dros dro yn y symud ond daeth i'r fei. Wedi cael amcan gost newydd a hwnnw'n ffitio'r boced penderfynwyd adnewyddu'r gloch a' i chael yn ôl yn saff i'r plwyf.

Y dyddiad ar y gloch yw 1616. Roedd ôl difrod i rannau ohoni ac nid oedd ei 'thafod' ar gael. Mae arni hefyd lythrennau wedi eu torri. R.O. - gwneuthurwr y gloch yn wreiddiol - posib Robert Orvell o Wigan.

Cafodd y gloch ei hail hongian nifer o weithiau ac mae dyddiadau a llythrennau wedi eu torri i gofio'r achlysur e.e. RE Vicar 1862 ac ER 1918. Mae'n debyg mai fandaleiddio fyddai'r gair am hyn rŵan!

Mae angen adnewyddu amryw rannau o'r ffrâm sy'n dal y gloch yn ei lle gyda defnyddiau na fyddant yn rhydu ac yn malurio. Felly os bydd gobaith am gryfhau ac adnewyddu'r tŵr bydd y gloch i'w chlywed am ganrif arall.

Aralleiriad o ddisgrifiad Graham D. Loveluck


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý