Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glorian
Band Dawnswyr Môn ar y cei ym Mortagne sur Gironde - Awst 2003 Ail daith dramor Dawnswyr Môn Haf 2003
13 Hyfref 2003
Ddeng niwrnod yn unig wedi dychwelyd o Wlad Pwyl roedd Dawnswyr Môn wedi ymgynnull ym Mortagne-sur-Gironde, tref fechan tua hanner ffordd rhwng La Rochelle a Bordeaux.
Aethant yno i ymuno yn nathliadau Gwyl Owain Lawgoch, gor-nai i Llywelyn ein Llyw Olaf, fu'n ymladd efo'r Ffrancwyr yn erbyn y Saeson yn y 14 Ganrif. Credir iddo gael ei lofruddio ym Mortange ac yno y dadorchuddiwyd cofeb iddo fis Awst eleni.

Daeth pawb ynghyd ar sgwâr Mortagne nos Iau a chafwyd cyd-ganu gan y Cymry oedd wedi teithio yno o'r de a'r gogledd rhai wedi dod i fwynhau, eraill yno i berfformio hefyd. Roedd yn noson hwyliog, gyfeillgar a'r Ffrancwyr wrth eu bodd a pharhaodd yr awyrgylch hamddenol drwy'r bwrw Sul.

Ddydd Gwener, wedi gorymdeithio drwy'r def a gwylio seremoni dadorchuddio'r gofeb roedd Dawnswyr Môn yn perfformio i gynulleidfa o 800. Roedd y gymeradwyaeth yn gynnes iawn a'r Dawnswyr hefyd wedi mwynhau.

Cafodd Siôn Gwilym Jones o Lansadwrn dderbyniad arbennig am ei glocsio unigol. Bu dawnsio ar y stryd ddydd Sadwrn a pherfformio eto gyda'r nos.

Cafwyd amser braf yn dawnsio ar y cei ddydd Sul a gyda'r nos bu'r cerddorion yn chwarae alawon Cymreig i'r dorf oedd wedi ymgynnull yno.

Daeth llawer i fynegi eu gwerthfawrogiad ac i ganmol y perfformiadau gafwyd gan Ddawnswyr Môn gydol yr Wyl. Am 11 o'r gloch nos Sul cafwyd 20 munud o sioe dân gwyllt i gerddoriaeth amrywiol a llais Bryn Terfel (ar CD!). Diweddglo gwych!

Roedd gadael yn anodd wedi derbyn cymaint o groeso gan y trigolion lleol sawl un wedi rhoi llety i'r perfformwyr, eraill yn paratoi bwyd. Gobeithio y daw cyfle cyn bo hir i groesawu pobl Mortagne i Fôn a dawnsio iddynt eto.

Wedi Haf
Ers dechrau Medi bu Dawnswyr Môn yn cyflwyno eu rhaglen awr i Gynhadledd Brydeinig Trefnwyr Blodau yn Llandudno ac yn dawnsio ar y sgwâr ym Miwmares.

Os ydych eisiau unrhyw wybodaeth am Ddawnswyr Môn ffoniwch Mrs Mair E Jones ar 01248 450508 (yn enwedig dynion sydd am ymuno gan fod sawl merch newydd wedi ymuno yn ddiweddar).


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý