Ym mis Chwefror bu Adlais yn cystadlu yn rownd derfynol 'Cystadleuaeth Côr Cymru S4C yn Neuadd y Celfyddydau, Aberystwyth dan arweiniad ein is-arweinydd, Elen Wyn Keen. Roedd cystadlu brwd ac yn fuddugol daeth Cywair o Ardal Ceredigion. Yn ystod mis Mawrth cafwyd cyngerdd i gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Môn 2004 yn y Ganolfan Hamdden yn Biwmares yng nghwmni Band Biwmares, Côr Ysgolion Cynradd Môn, Casi Wyn a Carys Eleri (a Trefor Wyn!) Yn arwain y noson oedd Hywel Gwynfryn. Gan symud ymlaen i fis Ebrill, buom yn diddanu gwesteion Cadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn yng Ngwesty Treysgawen, Capel Coch. Ar ôl wythnosau lawer o gystadlu mewn rowndiau yng nghystadleuaeth 'Côr Cymysg Radio Cymru 2003', llwyddodd Adlais i gyrraedd y rownd derfynol yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Y corau ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth oedd °äô°ù»å²â»å»å, Côr Caerdydd a Chantorion y rhos. Cafwyd profiad bythgofiadwy o gael canu yn neuadd enfawr y brifddinas. Daethom yn bedwerydd y tro hwn gan ddod â gwobr o £500 yn ôl i Fôn. Y côr buddugol oedd °äô°ù»å²â»å»å o ardal Caerdydd. Dymuna'r aelodau ddiolch yn fawr iawn i Mary ac Olwen am eu gwaith caled yn ystod y misoedd diwethaf yn enwedig.
|