Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glorian
Capel Moreia, ger Trelew O Foelfre i Batagonia am y chweched tro!
08 Ebrill 2003
Am y chweched gwaith cychwynasom ar daith wyth awr ar hugain i'r wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Y tro yma yn lle mynd i Trelew aethom i Barelocke, tref fechan ar lan llyn mawr yng nghanol mynyddoedd yr Andes. Aros yma am dri diwrnod, mynd ar y llyn mewn llong a gweld golygfeydd ardderchog - gweld pistyll anferth mewn coedwig.

Yna ymlaen i weld rhew du a chanolfan sgïo anferth. Cyn mynd i'r gwely bob nos, byddem yn mynd am fwyd a chael llond bol am £2.50 yr un neu 27 peso eu harian hwy.

Cyfarfod â hen ffrind oedd yn digwydd mynd i Esquel yn y bore a manteisio ar y cyfle i fynd ar daith mewn car yn lle bws.

Cyfarfod hen gyfeillion
Ar ôl rhyw bedair awr o daith drwy'r Andes, cyrraedd Esquel a chyfarfod Elinor ac Aira Hughes, hen gyfeillion ers deng mlynedd ac aros yno am wythnos. Aethom am dro i Drefelin ac i weld Lewis Thomas wrth lyn Losario. Efallai i rai ohonoch ei weld ar raglen Dai Jones, Cefn Gwlad, yn symud cannoedd o wartheg o dir isel i dir uwch yn yr haf. Mynd i weld y Ganolfan Gymraeg yn Esquel - Canolfan oedd wedi costio £100,00 - arian mawr iawn yno, a'r cwbl wedi ei gasglu gan noddwyr.

Roeddwn yn falch iawn o'r adeilad yma am fy mod yn un o bump oedd wedi codi £1,000 trwy reidio beic o Pourto Mont yn y Môr Tawel ar draws Chile a Phatagonia i Fôr Iwerydd, taith o 850 o filltiroedd.

Daeth yr wythnos i ben a chychwyn mewn bws am Trelew yn y dyffryn, taith 400 milltir. Daethom o'r bws a theimlo'r gwres yn ein taro! Buom yn aros yma am bythefnos a chawsom gyfle i gyfarfod â llawer o ffrindiau. Y drwg yma oedd ein bod yn bwyta llawer gwaith y dydd a chig ar y bwrdd bob dydd! 'Rhaid oedd cael 'siesta' ar ôl cinio am ei bod mor boeth.

Amser symud eto a'r tro yma i Gaiman, pentref hollol Gymreig. Cyfarfod yn y siop fara / caffi oedd yn gwerthu coffi ardderchog a chyfarfod dau arall o Gymru. Buom yn hel clecs a siarad Cymraeg gyda chymorth pobl y Gaiman. Beth oedd yn braf yma yn y Wladfa oedd nad oedd yr iaith fain yn cael ei thrwyn i mewn!

Gallwn lenwi tudalennau fil am ein saith wythnos yma, ond yn symud eto i Lawson - prifddinas Chubut, tref glan môr gyda thraeth tair milltir tywodlyd a miloedd o bobl yn torheulo a phawb gyda lliw bendigedig! Dyma'r fan y sefydlwyd y Cymry cyntaf cyn ymestyn allan i'r dyffryn.

Mae'r dyffryn ddeugain milltir wrth ddeg a dyma'r lle mae'r mwyafrif o'r Cymry yn ffermio ac yn tyfu popeth fel yma yng Nghymru. (Yr unig wahaniaeth ydyw eu bod yn tyfu tomatos allan yn y caeau!)

Carnifal go iawn!
Rhaid symud eto, a'r tro yma o Dolavon - pentref bychan distaw, gyda phoblogaeth o rhyw dair mil. Tra yma cawsom y profiad o weld carnifal go iawn. Nid oedd yn dechrau tan 10 o'r gloch y nos, a channoedd o bobl ifanc hanner noeth yn dawnsio tan tua 5 o'r gloch y bore. Y rheswm am ddechrau mor hwyr oedd ei bod yn rhy boeth yn y prynhawn!

Troi am Trelew unwaith eto am ychydig ddyddiau cyn troi adref am 7.30 o'r gloch bore dydd Mawrth a chyrraedd adref ym Moelfre am 4.30 o'r gloch prynhawn Mercher.

Os ydych yn meddwl mynd draw i Batagonia, ewch ar bob cyfrif mae'n le braf a phobl garedig iawn yno.

John a Margaret Parry


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý