Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glorian
Mynedfa newydd swyddfeydd y cyngor Newidiadau drud
ar y gweill

Mawrth 2008
Canmol i ddechrau y mis yma - mae arwyddion fod rhai o adeiladau'r dref yn cael eu gweddnewid - drysau a ffenestri newydd, cot o baent a.y.y.b.

Gresyn fod y polion a'r ffensys haearn ar y strydoedd mewn cyflwr mor fler - llawer wedi eu taro a'u plygu - pwy fydd yn talu am eu trwsio tybed?

Go brin mai'r rhai a'u hachosodd! Gwelaf fod gwaith mawr yn digwydd ar y gylchfan ar ben draw'r Stad Ddiwydiannol - wal fawr gerrig - un gostus bid siŵr.

Deallaf fod traeniau newydd wedi eu gosod yno gan fod y ffordd yn dueddol o foddi ar dywydd mawr ond mai pwrpas y wal yw cynnal arwydd "Stad Ddiwydiannol Llangefni". Oes angen un d'wedwch, ac eto fyth pwy fydd yn talu?

Deallaf hefyd fod Swyddfa'r Cyngor Sir yn rhy fychan i'w phwrpas (diffyg gweledigaeth wrth gynllunio mae'n debyg).

Maent yn y broses o ychwanegu clamp o fynedfa newydd sbon a'r sgerbwd o goed moethus yn ei le eisoes. Ydi o'n wir fod hyn i gyd yn costio £800,000, a phwy sy'n talu?

Rwy'n mawr obeithio y bydd gan y Cyngor arian i osod palmant ar ryw dri chan llath o'r ffordd o goedwig Llyn Cefni i ben yr allt yn Rhosmeirch gan fod y rhan hon o'r ffordd yn wirioneddol beryglus i gerddwyr.
Un sy'n malio.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý