Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glorian
Un o'r dosbarthiadau Ysgol newydd
Chwefror 2009
'Roeddwn yn awyddus iawn i gael gweld yr ysgol am ddau reswm ar wahân i'r holl sôn a fu am yr ysgol ysblennydd a'i gweld yn codi fel caws llyffant ger Lon Talwrn.

Yn gyntaf cefais innau'r profiad ffodus iawn o weld ysgol newydd sbon yn cael ei chodi o flaen fy llygaid yn Llanfechell yn 1970-71.

Cartrefwyd y tri dosbarth mewn cabannau dros dro ar yr iard oherwydd i'r hen ysgol gael ei chondemnio.

Roedd yr ysgol newydd bryd hynny hefyd yn 'state of the art' chwedl nhw.

Gwn felly sut yr oedd plant ac athrawon Ysgol y Graig yn teimlo ac yn edrych ymlaen at y diwrnod mawr - y symud i mewn.

I Yr ail reswm wrth gwrs oedd un braidd yn hunanol sef cael gweld yr ysgol fy hunan.

Symudais o Lanfechell i Langefni ym mis Medi 1984.

Cyn agor ysgol newydd Corn Hir y flwyddyn honno gwelwyd dros bum cant o ddisgyblion fel sardins yn yr hen ysgol dan ofal Mr Handel Morgan.

Chefais i ddim ysgol newydd ond fe gafwyd enw newydd 'Ysgol y Graig'. Roedd yn enw delfrydol- y graig fel sylfaen a meddyliwch - Argraig, Bron y Graig, Isgraig, Ger y Graig a Felin Graig - credaf mai'r i'r diweddar T. D. Roberts, Cynghorydd a Chadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol mae'r clod am hyn.

Ond digon o hen hanes. Beth am yr ysgol newydd?

Dyma ysgol sy'n werth craig o arian mi dybiaf - oddeutu tair miliwn a hanner - ac mae plant y dalgylch yma o'r dref yn llawn deilyngu adeilad o'r fath.

Mae ar safle delfrydol diogel ar gwr y dref o'i chymharu â'r hen ysgol ar y stad ddiwydiannol brysur gyda phroblemau traffig, a'r ogleuon drewllyd a ddioddefwyd dros y blynyddoedd.

Mae'n adeilad anferth a digonedd o le i bawb a phopeth ac mae'n amlwg ddigon fod y cynllunydd Gareth Thomas, pensaer gyda Chyngor Sir Ynys Môn wedi deall anghenion plant ac athrawon i'r dim - adeilad teilwng a gweddus i ddechrau'r unfed ganrif ar hugain a fydd yn batrwm i ysgolion y dyfodol rwy'n siŵr.

Mae'r 320 o blant mewn dwsin o ddosbarthiadau yn cael eu llyncu'n rhwydd oddi mewn i'r adeilad eang a moethus hwn. Yn ogystal â bod yn fawr mae'n olau a lliwgar tu hwnt.

Un o'i nodweddion pwysicaf yw ei bod yn ysgol werdd gyda phwyslais mawr ar gadwraeth a'r defnydd o ddefnyddiau a ailgylchwyd - wyddoch chi fod pethau fel ffonau symudol, cryno ddisgiau, poteli gwydr a rwber wedi gweld eu ffordd i'r ysgol hon yn wynebau byrddau gwaith ac mae'r defnydd o goed yn amlwg drwy'r adeilad.

Mae'n ysgol eco gyfeillgar. Mae rhan o'r to yn dywyrch a rhan arall yn cynnwys panelau 'solar' a chyda'r felin wynt sydd ar y campws gall gynhyrchu hyd at hanner y pŵer sydd ei angen ar gyfer yr ysgol a gwneir defnydd o nwy i gynhesu dŵr pan fo'r angen.

Sut mae disgrifio'r adeilad? Dychmygwch hirsgwar mawr lliwgar llawr caled - dyma'r maes chwarae, yr iard. O bobtu i hon mae dwy adain y dosbarthiadau. Ar un ochr ar gynllun lled agored, ceir dosbarthiadau lliwgar llawn adnoddau yr adran Iau tra'r ochr arall ceir adran y plant lleiaf eto'n hynod foethus a charpedi lliwgar rhyfeddol.

Ar waelod yr hirsgwar yn wynebu'r dref ceir y brif fynedfa, swyddfeydd gweinyddol, ystafell athrawon, neuadd/campfa a'r gegin - yr oll yn rhoi'r argraff eich bod ar blaned arall - popeth yn newydd sbon danlli.

Ym mhen uchaf yr iard mae cysgod ar gyfer beiciau'r plant. Welais i yr un drws rhwng yr ystafelloedd yn y ddwy adain a'r unig ffordd y cai'r plant ymadael â'r dosbarth oedd trwy fynedfa i'r iard.

Gwelais gyda defnydd o gloeon electroneg fod y plant yn gwbl ddiogel yn yr ysgol hon.

Ymddengys fod modd rhedeg yr ysgol gyda chyfrifiaduron a nwyddau eraill electroneg (na, fi sy'n dweud hyn mewn anwybodaeth llwyr).

Hoffwn ddiolch yn fawr i Glyn Roberts, y Prifathro am roi'r cyfle i mi ddod i weld yr adeilad rhyfeddol hwn ac i'm tywys o'i amgylch a dangos y sefydliad ar waith - pawb yn hapus, pawb yn ddiddos gyda'r adnoddau mwyaf bendithiol y gall arian eu prynu.

Dio1ch hefyd am hynawsedd yr athrawon yn caniatáu i mi ymyrryd â'u gwaith ond mae'n bosibl nad fi fydd yr olaf i wneud hynny a diolch i'r plant am eu croeso.

Addewais anfon adroddiad byr i'r Glorian ond roedd cymaint i'w ddweud. Dwi ddim yn meddwl fod rhai o'r plant eisiau mynd adref o'r ysgol hon...O am blant lwcus.

Gwynfor Roberts


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý