Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glorian
Rhys Meirion a Mary Lloyd Davies Lleisiau Llannerch a Meibion y Foel
Mawrth 2007
Uchafbwynt y flwyddyn i'r ddau gôr oedd ymuno yng nghyngerdd Gŵyl y Geni yng Nghapel lfan, Llannerchymedd.
Braint a mwyniant oedd cael Rhys Meirion a Mary Lloyd Davies yn unawdwyr. Roedd pawb wedi gwirioni gyda'r perlau 'Yn Bedair Oed" a "Chraig yr Oesoedd".

Cawsom ddatganiad o'r ddeuawd boblogaidd "Hywel a Blodwen" na chafwyd ei thebyg o'r blaen a'r gynulleidfa yn y capel orlawn yn dangos eu mwynhad a'u gwerthfawrogiad.

Roedd y corau ar eu gorau gydag Ann Allman, Richard Griffiths, Willie Roberts a George Lander yn unawdwyr a'r tri¬awd Owen John, Robin a Trefor yn ein swyno a charolau hen a newydd.

Cyflwynydd y noson oedd Donald Glyn Pritchard. Rhoddodd ysgafnder a hiwmor i'r cyngerdd yn ei ffordd radlon ei hun gan wneud pawb, yn artistiaid a chynulleidfa, yn gartrefol ac yn falch o gael bod yno.

Llywydd y noson oedd Margaret Hughes, Llwydiarth Fawr. Gwraig hynod o weithgar ac annwyl gan drigolion y Llan.

Dangosodd ei gwerthfawrogiad o fod yn llywydd y noson drwy roi swm anrhydeddus iawn i Gronfa Atgyweirio Festri CapeI Ifan. Diolch yn fawr iawn i chwi Margaret a Richard eich priod.

Talwyd y diolchiadau gan Linda'r Hafod yn ei ffordd gartrefol ei hun.

Yn bresennol yn y gynulleidfa oedd Dilys Lunt Roberts (Pwllgynnau gynt). Cyfeiriodd Donald Glyn at y biano newydd sydd yn y capel a gyflwynwyd yn rhodd i'r achos gan Dilys.

Cyfeilyddes y noson oedd Gres Pritchard a fu'n hynod o brysur. Hyfryd oedd clywed Rhys Meirion yn cyfeirio ati fel 'Super Star' yn gallu eistedd wrth y piano a chwarae mor fendigedig heb ymarfer ymlaen llaw.

Trefnwyd y noson gan Gres ac Evie Jones. Cyflwynwyd blodau gan blant yr Ysgol Sul a threfnwyd gwledd o luniaeth wedi'r cyngerdd bythgofiadwy.

Bu Lleisiau Llannerch yn canu yn Ysbyty Gwynedd cyn y Nadolig a mawr fu'r canmoliaeth.

Buont hefyd yn diddori aelodau Cymdeithas Lon y Felin nos Fercher, Chwefror 14eg dan arweiniad Gres Pritchard.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý