Yn wahanol i'r llynedd cafwyd tywydd eithriadol o braf a'r hen goed derw yn taflu eu cys¬godion o gwmpas y fynwent. Daeth cynulliad o tua pedwar deg yno i addoli a derbyn cymundeb oddi mewn i furiau yr hen eglwys, dan arweiniad y Parchedig Emlyn Cadwaladr Williams gyda Ted Thomas yn darllen y llith ac yn gweinyddu yn y cymundeb gyda chymorth Simon Calvert. Hyfryd oedd y canu di-gyfeiliant yn atsain o gylch yr hen fynwent gyda gwefr efallai fel oedd yn digwydd ganrifoedd yn ôl. Er bod y mwyafrif wedi cerdded y lon tuag at yr eglwys roedd Emlyn Jones, Hefin Owen, Peter Calvert a minnau wrth law i gludo. Diolchodd y rheithor yn fawr i Ted a Meirion Thomas am eu gwaith caled a di-flino yn clirio'r ffordd a'r fynwent eto eleni a chymorth Hefin Owen gyda'r peiriant tyllu.
|