"Diwrnod cydraddoldeb" oedd heddiw wrth i'r pleidiau am yr unig dro yn ystod yr ymgyrch gydlynu eu hymdrechion i gyd-fynd â rali gwrth BNP ym Mae Caerdydd.
Beth felly sy wedi darbwyllo'r pleidiau mawrion i gymryd y cam anarferol hwn? Mae 'na un rheswm syml sef ofnau cynyddol y gallai'r BNP ennill seddi yn y cynulliad y tro hwn. Rwyf wedi crybwyll y posibilrwydd cyn hyn ac mae "Hen Rech Flin" wedi ysgogi dadl fywiog ynglŷn â'r pwnc ar ei ac ar .
Dyma'r cefndir i'r ofnau. Y sedd olaf ar bob un o'r rhestri rhanbarthol sydd yn cael eu targedi gan y BNP. Yn etholiadau 2003 dyma faint o bleidleisiau oedd eu hangen i ennill y seddi hynny;
Canolbarth a Gorllewin Cymru 6.4% (11,855 pleidlais)
Gogledd Cymru 7.9% (13,880 pleidlais)
Canol De Cymru 7.7% (13,978 pleidlais)
Dwyrain De Cymru 6.7% (11,410 pleidlais)
Gorllewin De Cymru 8.9% (12,400 pleidlais)
Nawr ar yr olwg gyntaf mae'r targedi yna yn ymddangos yn rhai anodd i'w cyrraedd. Dau ymgeisydd oedd gan y Blaid yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol diwethaf. Rhyngddyn nhw fe enillon nhw 1,689 o bleidleisiau. Dyw hynny ddim yn ymddangos yn rhyw lawer ond pe bai'r Blaid yn ennill yr un nifer o bleidleisiau ac y gwnaeth hi yn Wrecsam ym mhob un o etholaethau'r Gogledd fe fyddai hynny'n golygu o gwmpas 7,300 o bleidleisiau, dim mor bell â hynny i ffwrdd o'r targed.
Mae canlyniadau etholiadau Ewrop hyd yn oed yn fwy trawiadol ac efallai yn fwy perthnasol gan eu bod yn etholiadau "ail ddosbarth" ac mae tua'r un canran yn pleidleisio ac yn etholiadau'r cynulliad. Yn yr etholiadau hynny fe enillodd y BNP 27,135 o bleidleisiau. Sicrhaodd UKIP 96,667 gan guro'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Dwi ddim yn awgrymu yn fan hyn bod UKIP yn arddel yr un fath o syniadaeth â'r BNP ond dwi'n meddwl bod hi'n deg i ddweud bod rhai o'r bobol a bleidleisiodd i UKIP yn bobol y gellid eu perswadio i gefnogi'r BNP.
Yn y bon dwi'n credu bod yna bleidlais gymharol sylweddol yng Nghymru a allai gael eu temtio gan y BNP. Mae'n cynnwys pobol sydd ag amheuon a phryderon digon parchus a chyfrifol am lefelau ymfudo i'r Deyrnas Unedig, pryderon sy'n tueddu cael eu hanwybyddu gan y prif bleidiau.
Dwi'n meddwl hefyd bod rhyw fath o bleidlais "twll eich tinau i gyd" wrth-ddatganoli yn bodoli a allai gael ei denu gan y gair "British", y logo jac yr undeb a safle'r BNP ar frig y papur pleidleisio.
Efallai fy mod yn gwbwl anghywir ond un peth dwi'n fodlon proffwydo. Pe bai'r BNP yn ennill llond dwrn o seddi yn y cynulliad gallai ffurfio llywodraeth fod yn hynod o anodd ac yn yr amgylchiadau hynny dwi bron yn sicr y byddai Llafur a Phlaid Cymru yn penderfynu cydweithio.