Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pleidleisiau Post

Vaughan Roderick | 19:59, Dydd Llun, 30 Ebrill 2007

Mae fy efaill-flogwraig Betsan wedi sgwennu yn fan hyn am rai o'r sibrydion sy'n ein cyrraedd ynglyn â phleidleisiau post. Gan fy mod yn sicr fod pawb sy'n darllen y blog yma hefyd yn darllen un Betsan wnai ddim o'u hail-adrodd. Ond mae na ambell i un arall wedi ein cyrraedd; sôn, er engraifft, bod pleidlais Plaid Cymru ym Môn ddeg y cant yn uwch ar y rhestr nac yn y bleidlais etholaethol (ffarmwrs yn fotio Rogers/Wigley efallai). Mae sawl ffyhonnell wedi cadarnhau sibrydion Betsan ynglyn â Gogledd Caerdydd gydag un yn ychwanegu "os oedd yna unrhyw amheuaeth fe fyddai Cameron wedi mynd yno yn hytrach na'r Fro Ddydd Gwener". Ym mha un o etholaethau'r Gogledd fydd Dave yfory tybed- a beth mae hynny'n ei ddweud?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:52 ar 30 Ebrill 2007, ysgrifennodd Cai Larsen:

    Ynrhyw syniad ynglyn a'r union ganrannau?

  • 2. Am 21:27 ar 30 Ebrill 2007, ysgrifennodd vaughan:

    nac oes... ond dim awgrym bod na sioc ar yr ochr etholaethol

  • 3. Am 21:43 ar 30 Ebrill 2007, ysgrifennodd Sion:

    "ond dim" ynteu "dim ond"?! Siawns bod hyn yn newyddion da i Wigley felly.

  • 4. Am 10:22 ar 1 Mai 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Dwi'n clywed fod pleidleisiau post yn Wrecsam yn dangos cynnydd i Blaid Cymru ond dwi ddim yn siwr mae cynnydd yn y rhanbarth neu yr etholaeth ydy hyn, y son ydy fod y Blaid yn derbyn tua 11% o'r pleidleisiau.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.