Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ymateb Rhodri

Vaughan Roderick | 10:06, Dydd Mawrth, 24 Ebrill 2007

Mae Rhodri yn dweud hyn;

This story is rubbish from start to finish. A formal complaint is being made to Â鶹Éç Wales about their decision to run such a story at such a critical point in the election, despite the story being comprehensively denied by Welsh Labour official sources.

"Neither I nor anyone else acting with my authority has been engaged in any such considerations or discussions. The obsession of the media and the minor parties is with coalition speculation. As previously stated on scores of occasions, Welsh Labour is aiming to form a government based on a mandate from the people of Wales.

Dwi ddim yn tynnu'r un gair yn ôl.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:27 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Aled:

    Oeddwn i yn tybio byddai rhywbeth fel hyn yn digwydd. Nes i son amdano ar fy mlog i ar ol yr "argyfwng cyllyd" pan oedd IWJ wedi taro ddel gyda Rhodri Morgan. Gweler -

  • 2. Am 10:31 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Fel rhywyn sy'n ganol sgwennu traethawd ymchwil ac yn gorfod troednodi pob honiad a ffaith a ffynhonell y cwestiwn syml i ti Vaughan yw - lle mae dy ffynhonellau?

    Rhys Llwyd, Aberystwyth

  • 3. Am 10:56 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Vaughan:

    Rhys, Nid fel 'na mae newyddiaduraeth gwleidyddol yn gweithio- diolch byth :) Y cyfan ddwedai yw na fyswn wedi cyhoeddi'r stori os nad oeddwn i yn gwbwl sicr fy mod yn gywir ac yn gallu profi hynny i'n golygyddion

  • 4. Am 11:09 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Ted Jones:

    Llongyfarchiadau Vaughan,

    Yn amlwg mae Llafur yn ceisio tanseilio dy hygrededd proffesiynol gyda'i datganiadau. Mae'r stori hyn yn dinsistrio strategaeth etholiadol y blaid Lafur. Mae'n warth ei bod nhw yn parhau i gelwydda.

  • 5. Am 12:09 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Bingo ! Bingo ! Bingo ! 'Cmon Midffild'

    'Trist iawn, very sad'. Well done Mr Roderick !


    Gwaith Da iawn, Vaughan - mae hwn yn llawer mwy 'exciting' na Iain Dale a Guido Fawkes combined..

    'Keep rattling the cages' / 'afflict the comfortable'

  • 6. Am 12:14 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Diolch am yr eglurhad Vaughan (Fon o hyn allan, haws i rywyn dislecsig fel fi sillafu!). Maes o law byddai'n ddiddorol gwybod beth yw'r ffynhonellau ond am y tro pob hwyl i ti yn wynebu tan ffiaidd Llafur.

    Ydw i'n iawn i ddweud dy fod di wedi ateb Hain yn ol yn breifat yn esbonio tarddiad dy honiad?

    Rhys

  • 7. Am 12:18 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Guto:

    "The obsession of the media and the minor parties is with coalition speculation" - wir? A finna'n meddwl ma Rhodri odd yn mynnu pedlo'r holl sharad am lywodraeth Plaid-Toriaidd!

  • 8. Am 12:40 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Mabon ap Gwynfor:

    Da iawn Vaughan ar dy balu. Wrth gwrs fod Rhodri Morgan a Llafur am wadu'r peth - mae nhw wedi bod yn bytheirio ddigon gyda chyhuddiadau lu am y pleidiau eraill yn cynllwynio mewn stafelloedd tywyll,felly dy'n nhw ddim am cael eu gweld fel rhagrithwyr. Ond dyw'r etholwyr ddim yn dwp, ac mae'n nhw'n deall fod hon am fod yn agos a'i fod yn anochel braidd i rai o'r pleidiau gyrraedd rhyw lefel o ddealltwriaeth ermwyn sicrhau fod y Cynulliad Cenedlaethol yn gweithio. Os yw'r pleidiau eraill yn gweithio er lles Cymru ac yn rhoi Cymru flaenaf yna does dim rheswm i beidio a chydweithio.

  • 9. Am 16:53 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Rwyt wedi bwrw'r targed os ydyw ymddygiad Rhodri yn unrhyw 'guide' - mae'r cap yn ffitio...

    Ble roedd Betsan amser oedd hyn yn mynd ymlaen ? Llai o amser ar y bws 'na Ms Powys...

  • 10. Am 17:22 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd gwylan:

    Tybed a'i anfon neges i'r Lib Dems yw bwriad y Blaid Lafur.

    Hwn yw eu 'Plan B'. Ma nhw'n dal i lynnu wrth 'Plan A' sef stwffio'r Lib Dems ond er mwyn codi ofn ar rheini ma nhw'n dangos eu bod nhw hefyd yn llygadu'r Blaid. Gan fod y Lib Dems mor awyddus i fod yn y Llywodraeth mi fydd yn fwy anodd iddynt wthio eu telerau rhag ofn i'r Blaid Lafur droi at y Blaid. Pwy fydd ar 'i ennill - y BL.

    Wrth gwrs mae'n bosib fod rhywun yn chwifio'r faner dros Plaid Labour er mwyn gweld beth yw'r ymateb . . pwy a wyr?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.