Sibrydion
Un o fanteision blogio yw bod dyn yn cael rhannu sibrydion. Dwi ddim yn honni am eiliad bod rhain i gyd yn wir neu yn gywir ond dyma rai o'r sibrydion sydd wedi cyraedd ein clustiau heddiw.
Dwi'n clywed o sawl cyfeiriad bod Llafur wedi penderfynu canolbwyntio ei hymdrechion yn y Gorllewin ar sedd Preseli Penfro ar draul Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro. Gallai hynny olygu bod bois a merched Llafur yn hyderus ynglyn â chadw sedd y De neu eu bod yn derbyn eu bod am ei cholli. Tybiaf mae'r ail esboniad yw'r agosa' at y gwir...os ydy'r sibrydion yn gywir wrth gwrs!
Mae na sawl un yn y pleidiau eraill yn honni bod Plaid Cymru wedi gor-chwarae ei llaw ynglyn ac ysbytai'r Gogledd gyda phobol leol yn eu cyhuddo o "hi-jacio" eu hymgyrchoedd.
"Hat tip" i am sylwi ar yr erthygl yn y New Statesman ynglyn â John Marek. Dwi'n clywed bod Llafur llawer yn llai hyderus ynglyn â Wrecsam nac oedden nhw ar ddechrau'r ymgyrch.
SylwadauAnfon sylw
Hoffwn i clywed beth sydd gan y bwci i ddweud am Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro!
Tybed beth yw'r ods?
Fe gei di wybod. Dwy wedi gofyn i Karl eu llunio!
Diolch i ti Vaughan
Ac hefyd Llanelli?
Digon yw digon Hedd!