O diar!
Dwi wrthi'n gwylio "Pawb a'i farn" a newydd glywed y Democrat Rhyddfrydol John Davies yn addo "yn sicr" y byddai ei blaid yn ail-gyflwyno taliadau prescripsiwn. Dwi ddim yn meddwl bod honna yn y Maniffesto, John!
Roedd Rhodri Morgan mewn hwyliau da ar "Dragon's Eye". Roeddwn i'n synnu braidd gan ein bod ni i gyd yn disgwyl y byddai fe mewn tymer da'r Â鶹Éç ar ol ein honiadau yn gynharach yn yn yr wythnos. Efallai ei fod yn wir gredu fod Llafur yn gwenud yn dda er cymaint y dystiolaeth i'r gwrthwyneb. Mae e hyd yn oed yn bosib ei fod e'n iawn.
Gyda llaw, wrth restru pwy oedd ar beth fe wnes i anghofio cynnwys y ffaith fod Adam Price ar "Question Time" heno.
SylwadauAnfon sylw
Ac roedd yn 'Question Time' ardderchog hefyd ! Roedd Adam yn disgwyl fel ei fod yn mynd i gael 'punch-up' gyda rhyw 'neo-con' haerllug..
Dw'i ddim yn credu fyddai Rhodri yn gadael 'yr haul i fynd lawr ar ei ddicter'; gall e adael Peter Hain i wneud hynna iddo...
Ond mae gyda fe bethau newydd i fecso amdano nawr fod y pol diweddara' 'mas.
'Keep up the good work' - pan na 'wneud di ddechrau 'website' dy hun sy ddim yn cael ei gwato ar y Â鶹Éç ? Beth am ffug enw debyg i 'Guido' - rhywbeth fel 'Glyndwr Ffowc' ???!!!!