Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Siop Rithwir Jack Brown- Preseli Penfro

Vaughan Roderick | 15:24, Dydd Mercher, 25 Ebrill 2007

Mae Karl Williams, cyn-osodwr prisiau cwmni Jack Brown yn llunio prisiau betio etholaethol ar gyfer y blog. Mae croeso i chi fentro ffeifar rithwir.

Preseli Penfro

Llafur; 4-6
Ceidwadwyr; 6-5
Plaid Cymru 6-1
Dem. Rhydd. 100-1

Sylw Karl; "Er bod Llafur wedi colli hon yn yr etholiad cyffredinol dwi'n eu ffafrio i'w cadw yn etholiadau'r cynulliad. Roedd yr ymgeisydd Llafur yn wan yn etholiadau San Steffan a dwi'n meddwl y gallai Llafur roi'r wasgfa ar Blaid Cymru i gadw'r Torïaid allan."

Sylw Vaughan; "Am y tro cyntaf dwi'n anghytuno â Karl. Dwi'n clywed canmol mawr i ymgyrch y Ceidwadwyr ym Mhreseli. Dwi hefyd yn meddwl bod pris Plaid Cymru yn rhy hael. Fe fyswn i felly yn mentro ffeifar yr un ar y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru."

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:31 ar 25 Ebrill 2007, ysgrifennodd Aled:

    Dwi'n teithio trwy rhan o'r etholaeth yma bob dydd, ac o weld y posteri a phlacariau, plaid cymru yw'r plaid cryfa; ond nid posteri sy'n cyfri yn y diwedd yntefe (a Crymych a Blaenffos yw'r llefydd hyn). Y gwir yw Hwlffordd a Aberdaigleddau yw'r llefydd a fydd yn penderfynnu hi dwi'n credu, er dibyna hwn ar faint aiff mas i pleidleisio.

  • 2. Am 16:23 ar 25 Ebrill 2007, ysgrifennodd Sion:

    Dwi 'di clywed o le da mai sedd i'r Ceidwadwyr fydd hon.

  • 3. Am 16:31 ar 25 Ebrill 2007, ysgrifennodd Sion:

    Anghofiais i - £10 ar y Ceidwadwyr plis!

  • 4. Am 10:01 ar 26 Ebrill 2007, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    I ninau'r anghydffurfwyr syber a fedri di egluro sut bo sustem ods yn gweithio?!

    Rhys, Aberystwyth

  • 5. Am 10:20 ar 26 Ebrill 2007, ysgrifennodd Vaughan:

    Oes rhaid i fi?

    Yn y bôn yr ail ffigwr yw'r swm sy'n cael ei fetio. Os ydych chi'n proffwydo'n gywir cewch chi ei swm yna yn ôl ynghyd a'r ffigwr gyntaf.

    Fe fyddai bet o bunt ar y Democratiaid Rhyddfrydol yn fan hyn, felly, yn golygu enillion o £101 ond fe fyddai'n rhaid mentro £4 ar Lafur er mwyn cael deg punt nol.

    Mae angen i fi buro fy enaid!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.