Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Siop Rithwir Jack Brown Ynys Môn

Vaughan Roderick | 12:36, Dydd Llun, 16 Ebrill 2007

Mae Karl Williams, cyn-osodwr prisiau cwmni Jack Brown yn llunio prisau betio etholaethol ar gyfer y blog. Mae croeso i chi fentro feifar rithwir.

Ynys Môn

Plaid Cymru 1-3
Ann. 5-1
Ceid. 5-1
Llafur 5-1

Sylw Karl; " Dwi'n synhwyro nad yw Ieuan yn arbennig o boblogaidd ar yr ynys ar hyn o bryd. Ar y llaw arall mae Peter wedi methu ei guro sawl gwaith o'r blaen a dwi'n tybio fod y bleidlais Geidwadol yn fwy cadarn nac y buodd hi. Dwi'n gosod llafur ar 5-1 oherwydd y sedd seneddol. Efallai y byddai 6-1 neu hyd yn oed 7-1 yn well."

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 00:49 ar 17 Ebrill 2007, ysgrifennodd Llyr:

    Dwi am roi pumpunt rithiol bach ar Ieuan Wyn Jones i ennill ta gan fod pobl Mon yn tueddu i ail-ethol aelodau etholedig, er nad oes ganddyn nhw fawr o deyrngarwch i unrhyw blaid. Ond wrth gwrs pe tasa Plaid Cymru yn colli, mi fyddai gan Mr Wigley lawer gwell siawns o gipio sedd ranbarthol...
    Safle blog penigamp gyda llaw - mond newydd gal hyd iddo fo - wedi bod dramor ymhell o firi'r etholiad am wthnos

  • 2. Am 18:59 ar 17 Ebrill 2007, ysgrifennodd Sion Gwilym:

    Dwi'n gyndyn iawn o roi unrhyw bres ar Ynys Môn. O roid o gwbwl, byddwn yn gwario ychydig iawn ar Ieuan Wyn. Rhith-buntan ar y mwya'! Dwi'n edrych ymlaen yn fawr i weld y canlyniadau yma!!

  • 3. Am 23:36 ar 22 Ebrill 2007, ysgrifennodd Ellen Williams:

    Newydd ddod o hyd i'ch blog, ac yn ei lecio'n arw.

    Wedi siarad hefo hwn a'r llall ar draws y sir, bodlon rhoi £10 rithiol ar i Ieuan Wyn Jones gadw ei sedd. Mae rhywbeth yn reit hirben ym mhobl Mon, a mae nhw yn adnabod dyn da.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.