Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Trafod Môn 'da Rhun ap Iorwerth

Vaughan Roderick | 13:37, Dydd Mercher, 25 Ebrill 2007

VR; Helo Rhun

Rh; Helo Vaughan

VR; Ti'n byw ar yr ynys. Beth ar y ddaear sy'n mynd ymlaen yna?

Rh; Mae Peter Rogers wedi sicrhau'r mannau hysbysebu gorau h.y. yng nghaeau'r ffermwyr wrth y priffyrdd... felly pe bai modfeddi sgwâr o hysbysebu yn cyfri ... fo sy'n ennill! Ond dyw o ddim yn gweithio felly Vaughan!

VR; Dyw'r defaid ddim am fotio felly... ai Peter yw'r prif fygythiad i Ieuan?

Rh: Ie, ddwedwn i, ond mae'n anodd iawn darllen faint o fygythiad ydi o mewn gwirionedd. Fe allwn ni ddisgwyl i'r Ceidwadwyr wneud yn well drwy Gymru, felly dyna i ti rai Ceidwadwyr gefnogodd Peter Rogers y tro diwethaf y safodd o fel ymgeisydd annibynnol yn dychwelyd i'w corlan nhw efallai, felly fe fyddai raid iddo fo ddenu LOT FAWR o gefnogwyr newydd y tro hwn er mwyn curo Plaid Cymru.

VR; Dwy ti ddim wedi son am Lafur- nhw, wedi'r cyfan sydd a’r sedd seneddol.

Rh; Dyw Llafur erioed wedi bygwth yn Ynys Môn yng nghyd-destun etholiadau'r Cynulliad. Ond mae yna ffactorau eraill ym Môn hefyd. Er bod y sedd wedi bod yn nwylo'r pedair prif blaid, dyw'r aelod presennol ddim yn colli ei sedd yn aml. Cofia mai ar ôl i Ieuan Wyn Jones ddewis peidio â sefyll yn etholiadau San Steffan yr enillodd Lafur, nol yn 2001, a beth bynnag ydi'r cwestiynau ynglŷn â phoblogrwydd Ieuan Wyn Jones fel unigolyn, mae'r ffaith honno yn siŵr o weithio o'i blaid... os yw'r drefn draddodiadol yn parhau.

VR; Ond beth am Wylfa...

Rh: Pwynt pwysig, ac mae swyddi - Wylfa ac Alwminiwm Môn yn arbennig - yn faterion pwysig. Ond dwi'n meddwl bod y ffaith i Ieuan Wyn Jones ddweud rŵan ei fod yn cefnogi Wylfa yn profi ryw fath o gonsensws ar yr Ynys.

VR;Ieuan i ennill felly?

Rh: Mae dy flog di, dwi'n meddwl wedi rhoi Plaid Cymru'n ffefrynnau i ennill, a does gen i ddim rheswm i amau bod Karl y bwci ymhell o'i le. Ond cofia di... yn yr wythnos olaf cyn yr etholiad seneddol 2005 y gwelon ni Peter Rogers yn ennill tir dwi'n meddwl, ac os ydi o'n llwyddo i gael ei 'troops' allan eto y tro hwn, fe allai agosáu.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:18 ar 25 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Hmm..Diddorol iawn, Mr Roderick.

    Ond gyda 'Right to Roam' beth sy i stopio y gwrthbleidiau yn 'hwpo' ei placardiau ei hun i fyny ar bwys y rhai sydd lan yn barod ?

    Os odi 'Estate Agents' yn medru taflu eu hysbysebion i fyny blith draphlith, ar dai na ydynt yn ei gwerthu, beth sydd i stopio hwn yn digwydd yng Nghymru ??

    Nid fy mod yn eisiau hwpo syniadau ym mhennau pobol..

  • 2. Am 19:10 ar 25 Ebrill 2007, ysgrifennodd Monwysyn:

    'Dwi'n ama mai yr un ffarmwr sy berchen y tir lle mae holl baneri Mr Rogers yn ymddangos!

  • 3. Am 19:24 ar 26 Ebrill 2007, ysgrifennodd Garynysmon:

    Mae rheolau llym iawn yn bodoli yma ar yr Ynys ynglyn a dangos posteri a.y.b, felly mwy na lai yr unig le lle gwelir posteri o unrhyw fath ydi'r placardiau mewn caeau. Ychydig iawn, iawn o bosteri a.y.b mewn ffenestri sydd i'w gweld.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.