Mad Dog a'r Groeswen
Mae'n ddydd Sadwrn ac mae'n dawel - diolch byth. Mae'n gyfle i mi wneud y gwaith cartref ar gyfer y rhaglen ganlyniadau. Yn anffodus dwi newydd gofio fy mod wedi torri fy ngair i Mad Dog.
Roeddwn yn ffilmio yn Abertridwr ddydd Iau ac yn gwneud hynny ar yr adeg fwyaf hunllefus i newyddiadurwyr teledu - y cyfnod pan mae'r ysgolion newydd droi mas. Yn ddieithriad ar yr adegau hyn mae pob un ymdrech i ffilmio yn dioddef wrth i'r "anwyliaid bach" chwifio at y camera neu waith. Penderfynodd Mad Dog ei fod am fod yn "feinder" i mi yn Abertridwr gan gadw ei fêts mas o'r ffordd a mynnu "this is the news butts..and we don't get much news in Abertridwr" Addawais y byddai ei lysenw yn ymddangos ar wefan y Â鶹Éç fel arwydd o ddiolch. Felly diolch Mad Dog. Dwi'n dal i boeni am ei eiriau olaf "I've just swallowed a raw pig's eye for a bet". Lle ddiawl maen nhw'n cael llygaid moch yng Nghaerffili?
Mae Cwm Aber a Mynydd Meio wedi bod yn llefydd rhyfedd erioed. Yn fanna mae gwreiddiau fy nheulu ac i bobol sy'n ymddiddori mewn hanes mae 'na newyddion da iawn o'r ardal. Un o berlau ein treftadaeth a aeth yn angof yw , yr adeilad cyntaf a godwyd gan y Methodistiaid yng Nghymru. Yn y fynwent y mae beddau mawrion Fictoraidd fel Ieuan Gwynedd a Caledfryn.
Roedd fy hen dad-cu yn weinidog am ddegawdau lawer yn y Groes ac yno y priodwyd fy chwaer, Sian. Y disgwyl oedd mai priodas Sian fyddai’r briodas olaf yn y Capel, ac mai angladd fy Anti Marjorie, un o selogion y capel, fyddai'r cynhebrwng olaf.
Diolch i ymdrechion anhygoel gan Gymdeithas Hanes Caerffili, y Cynghorydd Lindsay Whittle a phenderfyniadau Alun Pugh fel gweinidog diwylliant nid felly y bu pethau. Mae adeiladwyr wrthi ar hyn o bryd yn cyflawni gwaith i adfer y capel ar gost o gannoedd o filoedd o bunnau ac mae 'na ddyfodol disglair i'r lle fel canolfan i fywyd ysbrydol a diwylliannol yr ardal. Serch hynny, dwi ddim yn gweld nhw'n denu Mad Dog i'r lle rywsut!
SylwadauAnfon sylw
Da clywed am ymdrechion llwyddianus Cymdeithas Hanes Caerffili gyda Capel Groeswen. Mynwent a adnabyddir fel 'Wales's Westminster Abbey'!
Beth am weinidog gyntaf y capel, sef y Gweinidog William Edwards, adeiladwr y pont enwog na ym Mhontypridd? Plaque gan Sir Goscombe John i William Edwards to ol i'r pwlpud.
Cwbwl gywir Bettsy. Byswn wedi gallu mynd mlaen a mlaen. Er bod y ty gwreiddiol wedi ei ddymchwel, mae fy ngefnder Richard yn ffarmio tiroedd Ty Canol, cartref William Edwards.
Roeddwn i lan yn y Groes ddydd Iau ac mae safon y gwaith adeiladu yn anhygoel gan ddefnyddio deunydd a dulliau traddodiadol. Fe fydd y rhaglen waith bressenol yn adfer y Capel ei hun yn gyfangwbwl ac yn creu Amgueddfa Fechan yn y Festri. Fe fydd angen rhiw gan mil yn ychwanegol i adfer y fynwent ond mae pawb yn ffyddiog y bydd yr arian ar gael.
Ironic gweld dau apel yng Nghaerffili yn mynd llaw yn llaw...un ar gyfer cerflun i Tommy Cooper ac y llall ar gyfer Capel Groeswen.
Fe fydd fy arian i yn mynd tuag at Groeswen!
Da clywed nad yw Abertridwr wedi newid...
Neis clywed dy fod wedi bod yng Nghapel Groeswen, rwyf yn edrych ar oleuadau tu allan i'r capel nawr. Cytuno'n llwyr gyda Bettsy bydd fy arain i'n fwy debygol i fynd at Gapel Groeswen na tuag at Tommy Cooper.
Wyt ti'n debygol o ddod i Gaerffili yn oriau man bore Dydd Gwener. Teimlaf fod y Cynghorydd Lindsay Whittle yn rhedeg y Blaid Lafur yn agos yn enwedig os all Ron Davies sicrhau 2,000 i 3,000 o bleidleisiau.
Fe fyddai yn stiwdio Â鶹Éç/S4C ar y noson ac hefyd yn blogio'n fyw. Dwy'n disgwyl i ganlyniad Caerffili fod yn un hynod ddiddorol a dwy'n tueddu cytuno a dy ddadansoddiad Dewi.
Meddwl bydd Ron yn cael llawer mwy na 2-3,000 o bleidleisiau. Sicrhoadd 2169 o bleidleisiau yng Nghaerffili yn yr etholiad ewropiaidd. Yn yr etholiad cynulliad olaf, mi roedd 2 annibynwr yn sefyll yng Nghaerffili ac wedi llwyddo cael dros 2,000 o bleidleisiau.
Dwi'n meddwl gall Ron sicrhau 5,000 heb drafferth.
3 horse race rhwng Ron, Plaid a Llafur, a gall hyd yn oed 8,000 bod yn digon i ennill y sedd hon. Fe fydd yn canlyniad agos. Pobeth yn dibynnu faint o gwymp bydd y pleidlais Llafur. Os ydy i lawr i tua 9,000, yna mae i gafael PC a hyd yn oed Ron. Er hynny, mae Llafur yn dda o gael y 'troops' mas pan ydynt mewn trafferth yng Nghaerffili ac ennill yn hawdd!
Bettsy. Ydy Llafur yn sylweddoli eu bod nhw mewn trafferth yng Nghaerffili. Fe all y Blaid sicrhau 8,000 i 9,000 ac efallai ti'n iawn bydd Ron yn debygol o gael mwy na 3,000. Un peth sy'n sicr mae Caerffili'n sedd agosach na mae llawer yn credu ac yn llawer agosach na seddi eraill yn y cymoedd ble mae brwdr rhwng Plaid a Llafur.