Dal yr omnibws
Does dim byd fel creu tipyn o gynnwrf ar y diwrnod cyntaf! Mae sawl un wedi gofyn beth oeddwn yn ei olygu wrth grybwyll y posiblirwydd o arolwg barn a allai wrthddweud canlyniadau NOP/ITV. Dyma'r esboniad.
Mae na ddwy ffordd i gynnal arolwg barn yng Nghymru, y naill mor ddilys a'r llall. Y ffordd gyntaf yw talu am arolwg unigryw. Dyna mae ITV yn gwneud gan ddefnyddio NOP a dyna beth oedd Â鶹Éç Cymru'n arfer gwneud gan ddefnyddio Beaufort Research.
Y ffordd arall, rhatach i gynnal arolwg yw trwy dalu am gwestiynau ar arolwg "omnibws" Beaufort lle mae'r cwmni yn gofyn ystod eang o gwestiynau ar ran gwahanol gleientiaid. Mae arolwg y mis hwn yn cynnwys cwestiynau am fwriadau pleidlesio yn etholiadau'r cynulliad. Fe fydd y canlyniadau'n ymddangos yn y wasg Gymreig yn y man.
Does gen i ddim gwybodaeth am ganlyniadau'r arolwg ond dwi wedi gweld canlyniadau "omnibws" diwethaf Beaufort. Plaid Cymru wnaeth dalu am ofyn y cwestiynau y pryd hwnnw ac roedd y canlyniadau'n awgrymu fod y blaid yn gyfforddus yn yr ail safle.
Fe fyddai'n ryfeddol pe na bai canlyniadau'r "omnibws" newydd, sy'n gofyn yr un cwestiwn ac yn defnyddio'r un fethodoleg, er ar ran client gwahanol, yn cynhyrchu canlyniad tebyg. Y gwahaniaeth y tro hwn yw y bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi gan y wasg ac nid ar fympwy plaid ac oherwydd hynny yn cael eu cymryd o ddifri.
SylwadauAnfon sylw
Da clywed hynny. Post da gan Alwyn ap Huw ar natur polau piniwn Cymreig