Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Diwrnod Ceredigion Siop Jack Brown

Vaughan Roderick | 00:52, Dydd Sadwrn, 21 Ebrill 2007

Mae Karl Williams, cyn-osodwr prisiau cwmni Jack Brown yn llunio prisiau betio etholaethol ar gyfer y blog. Mae croeso i chi fentro ffeifar rithiwr.

Ceredigion

Plaid Cymru 1-2
Dem. Rhydd 11-8
Llafur 33-1
Ceid 33-1

Sylw Karl; "Er gwaethaf y canlyniad annisgwyl yn 2005 mae'r prisiau dwi wedi'u gosod yn awgrymu bod buddugoliaeth "deja-vu" i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn annhebygol.
Dim ond y Democratiaid Rhyddfrydol mwyaf pybyr oedd yn wirioneddol gredu eu bod yn gallu curo Plaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol. Methodd hyd yn oed y Democratiaid Rhyddfrydol mwyaf craff gymryd mantais o'r pris o 2-1 oedd ar gael yn siopau Jack Brown.
Fe fydd y canran sy'n pleidleisio yn allweddol yng Ngheredigion. 67% o'r etholwyr wnaeth fwrw eu pleidleisiau yn 2005, canran uchel iawn o gymharu â gweddill Cymru a Phrydain. Byswn i'n rhagweld mai o gwmpas 50% fydd yn pleidleisio yn etholiadau’r cynulliad a chyda Plaid Cymru yn amddiffyn mwyafrif llawer mwy sylweddol dwi'n credu y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cael hi'n anodd cipio'r sedd"

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 08:53 ar 21 Ebrill 2007, ysgrifennodd gwylan:

    Diolch Jack

    Dwi'n mynd lawr i'r dre nawr i ledaenu'r newyddion yn Sgwar Glyndwr.

  • 2. Am 09:20 ar 23 Ebrill 2007, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Vaughan,

    Rwy'n mwnhau dy flog yn ddirfawr! A welaist fy narogan i o ganlyniadau Ceredigion yn y [pstiad yma:

    Yn y bon dwi wedi dangos na fydd swing 2001-2005 y Dem Rhydd yn ddigon iddyn nhw oddiweddid rhwng 2003-2007.

    Gobeithio y byddai fy hen Athro Scully, yn mwynhau'r graffiau!

    Rhys

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.