Dinas Anniolchgar
Echdoe roedd enw Caerdydd ar dudalennau blaen a chefn papurau newydd ledled Ewrop. Roedd canolfan y Â鶹Éç yn Llandaf yn llawn o Bwyliaid, Iwcraniaid, Eidalwyr a phob math o bobol eraill a lluniau o'r ddinas ar setiau teledu ar draws y cyfandir. Y rheswm am hynny wrth gwrs oedd y cyfarfod i benderfynu yn lle y dylid cynnal Pencampwriaethau Pêl Droed Ewrop yn 2012. Hwn oedd y cyfarfod oedd yn ddigon pwysig i ddenu Arlywyddion dwy o wledydd mwyaf Ewrop i Gaerdydd ond ddim yn ddigon pwysig i ddenu ymgeisydd o orllewin Clwyd.
Dwi ddim yn gwybod beth oedd gwerth uniongyrchol cynnal y cyfarfod i Gaerdydd. Yn sicr roedd y cyhoeddusrwydd yn werth miliynau o bunnoedd i economi'r brifddinas. Ond pam y cafodd y cyfarfod yma ei gynnal yng Nghaerdydd? Wedi'r cyfan go brin fod Cymru fach yn un o gewri'r byd pêl-droed.
I ateb y cwestiwn mae'n rhaid gofyn cwestiwn arall. Pwy sy'n berchen ar bêl-droed? Pwy sydd â'r gair olaf ynglŷn â'r rheolau a'r ffordd y mae'r gêm yn cael eu chwarae? Fe fyddai'r rhan fwyaf o bobol yn ateb FFA i'r cwestiwn hwnnw ac fe fyddai'r rhan fwyaf o bobol yn gwbwl anghywir. Y corff sy'n gor-lywodraethu ac sydd piau hawlfraint y gêm yw corff sy'n tueddu i lechu yn y cysgodion o'r enw yr IFAB- Bwrdd Rhyngwaldol y Cymdeithasau Pêl-droed.
Mae gan IFAB wyth aelod, pedwar yn cynrychioli FIFA yn siarad dros Brasil, yr Almaen, yr Eidal a'u tebyg ac un cynrychiolydd yr un yn cynrychioli Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ystyriwch am eiliad ar gorff uchaf gêm fwyaf y byd mae gan Gymru fwy o ddylanwad na phob gwlad sydd wedi ennill Cwpan y Byd (ac eithrio'r Saeson - dwi'n meddwl ey bod nhw wedi ei hennill rhywdro!)
Dyna'r rheswm yr oedd EUFA yng Nghaerdydd felly. Oherwydd bod Cymru (yn nhermau gwleidyddiaeth ffwtbol) yn genedl bwysig ac mai Caerdydd yw ei phrifddinas.
Fel un cafodd ei eni a'i fagu yn y ddinas yma mae'n rhwystredigaeth gyson i mi nad yw ei thrigolion yn sylweddoli cymaint mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru. Yn hytrach na bod yn ddiolchgar a cheisio rhoi rhywbeth yn ôl i weddill y wlad mae ei gwleidyddion yn grwgnach yn gyson am y "gost" o gynnal gweithgareddau megis gemau rhyngwladol gan awgrymu, hyd yn oed, y dylai trethdalwyr gweddill y wlad ysgwyddo'r baich.
Os ydy cynghorwyr Caerdydd mor anhapus â hynny dwi'n siŵr bod 'na lefydd eraill a fyddai’n ddigon parod i gamu i'r bwlch.
SylwadauAnfon sylw
Er bod bwrdwn dy neges yn un dilys, ond mae dy erthygl braidd yn gamarweiniol Vaughan. FIFA ydi'r corff llywodraethol a nhw sy'n rheoli'r gamp trwy'r byd i gyd. Yr unig beth mae'r IFAB yn ei wneud ydi goruchwylio rheolau'r gamp, felly mae ei ddisgrifio fel y corff uchaf yn y gamp braidd yn anghywir.
Yr ateb i'r cwestiwn, "Pwy sydd biau'r gamp?" ydi FIFA a'i haelodau - pob un o gymdeithasau pêl-droed y byd.
Y rheswm bod y cyfarfod arbennig yma wedi ei chynnal yng Nghaerdydd yw bod pwyllgor gweithredol UEFA (corff llywodraethol y gamp yn Ewrop) yn ymweld â phob un o'u haelodau ar gyfer eu pwyllgorau - roedd cyfarfod llynedd ym Malta.