Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ac mae'r llencyn yn y jel...

Vaughan Roderick | 20:19, Dydd Mawrth, 24 Ebrill 2007

O safle'r BNP;

Out of a Welsh-speaking population of little more than one million, a staggering 6,000 people went to prison during the campaign, launched by Saunders Lewis in 1968, to secure official status for the Welsh language. Many of those now ageing veterans of a long campaign of civil disobedience and non-violent direct action, and their families, are now watching in impotent horror as the neo-Marxist polytechnic lecturers and town hall parasites who have hijacked Plaid Cymru make a play for the Polish vote- despite the devastating effect of Polish immigration and cheap labour on poor Welsh families and communities.

Byddwch arwrol! Anghofiwch eich "impotent horror". Safwch yn erbyn y "neo-Marxist polytechnic lecturers" yna!

Sefwch yn y bwlch. Oes modd dweud unrhywbeth?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:36 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bobi Bangor:

    Roeddwn yn synnu ac wedi siomi'n ddirfawr gweld darpar ymgeisydd ar ran y BNP yn cael ei chyfweld ar Newyddion S4C yr wythnos diwethaf. Vaughan - Beth yw polisi 'r Â鶹Éç o ran rhoi platfform/llais i'r bobl hyn?

  • 2. Am 21:51 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd sanddef:

    Cheap labour? Duh! Mae'r Pwyliaid, fel dinesyddion yr UE, yn cael yr un cyflog minimwm a phawb arall.

  • 3. Am 21:54 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Sion:

    Hollol, hollol anhygoel! Dwi'n gegrwth! Ti'n iawn, does dim modd dweud dim byd!! 8-O

  • 4. Am 23:18 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Ond Vaughan, mae pobl yn digon twp i gredu nhw. Does dim ond hala peth amser yn darllen ei gwefan nhw i ddeal fod 'twin-track approach' ar waith fan hyn.

    Mae llawer o beth mae'n nhw'n dweud i'r wasg dyddiau 'ma ddim yn rhy wahanol I beth mae pobl fel Richard Littlejohn yn dweud yn y Daily Mail. Ond gan balu yn ddwfnach mae'n bosib ffeindio y polisiau 'racist' sy'n cael ei cuddio.

    Un esiampl - mae'n nhw'n dweud, pan caent ei sialensio am fod yn 'racist' [hiliol?] y bydden nhw yn dod lawr fel tunell o 'frics' ar pobl gwyn sy'n torri'r gyfraith. Heb ateb y cwestiwn a ydy'n nhw'n hiliol.

    Ond mae'n bosib i ffeindio nhw'n gofyn am bob moslem gael ei stopio o hedfan ar awyren, a llawer gwaith.

    Roedd Iain Dale yn dweud ni ddylai ni gormod o sylw i'r BNP. Rwy'n gallu gweld fod 'no such thing as bad publicity'. Ond ddylai ni ddim anwybyddu y perygl chwaith.

    Mae 'banio' nhw yn ffordd anghywir o ddelio a nhw - mae rhaid sgwaru lan i'r bygythiad yma.

  • 5. Am 05:46 ar 25 Ebrill 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Bobi,
    Mae'r Â鶹Éç yn dilyn canllawiau manwl adeg etholiad. Yn yr etholiad hwn rydym yn ceisio sicrhai cydraddoldeb sylw rhwng y pedair prif plaid ac yn gwarantu isafswm sylw i unrhyw blaid sydd yn sefyll ym mhob rhnabarth etholiadol. Yr un yw'r trothwy ar gyfer cael darllediad gwelidyddol. Wrth reswm, dyw'r Â鶹Éç ddim yn darlledu deunydd sydd yn hiliol nac yn anghyfreithlon. Yn ogystal a chanllawiau'r Â鶹Éç rydym hefyd fel unigolion yn dilyn canllawiau ein hundeb, yr NUJ.

  • 6. Am 11:06 ar 25 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bobi Bangor:

    Sefyllfa anodd i sawl person mae'n siwr? Gyrrodd darllediadau gwleidyddol(Cymareg a Saesneg) y BNP neithiwr ias annifyr i lawr fy asgwrn cefn. Ac oni chlywais fod protest wedi ei threfnu y tu allan i'r Â鶹Éç yn rhywle i wrthwynebu darlledu rhain? Gyda chefnogaeth yr NUJ a BECTU??

  • 7. Am 11:49 ar 25 Ebrill 2007, ysgrifennodd Vaughan:

    Roedd na rhiw gant o bobol yn protestio y tu allan i'r Â鶹Éç rhwng chwech a saith neithiwr. Yn ol "Media Guardian" roedd na dorriadau i ddarllediad y BNP ar gais y Â鶹Éç. Does gen i ddim gwybodaeth personnol am hynny.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.