Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhyfel y Rhosynnau

Vaughan Roderick | 14:35, Dydd Mawrth, 10 Ebrill 2007

Roedd Rhodri mewn hwyliau da yn y lansiad Llafur heddiw er bod neb cweit yn deall pam y cynhaliwyd lansiad plaid y rhosyn coch yn Ysgol Gynradd y Rhosyn Gwyn yn Nhredegar Newydd. Efallai bod y blaid, sy'n mynnu mai hi yw "gwir blaid Cymru", hefyd am brofi ei bod yn gallu apelio at Efrogiaid yn ogystal a Lancastriaid!
Roedd arweinydd Llafur Cymru hyd yn oed yn fodlon yfed o botel o ddwr coch clir (Vimto fel mae'n digwydd) ar gyfer y camerau.
Beth yw'r rheswm am hwyliau da Rhodri tybed? Wel, hwn yw ei etholiad olaf, wrth gwrs, a doed a ddelo mae'n benderfynol o fwynhau ei hun. Mae e hefyd yn gallu bod yn weddol sicr na fydd beth bynnag sy'n digwydd fan hyn hanner cynddrwg a'r Alban.
Ond y prif reswm, dwi'n credu, am hapusrwydd Rhodri yw arolwg barn NOP/ITV yn gosod y Toriaid yn yr ail safle. Tybed a fyddai fe'r un mor hapus o glywed bod yna o leiaf un arolwg arall ar ei ffordd a allai ddangos canlyniad gwahanol iawn?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:28 ar 10 Ebrill 2007, ysgrifennodd Sion:

    Mae 'na arolwg arall ar y ffordd? Os felly gan bwy a phryd?! (os cai fod mor hy a gofyn!)

  • 2. Am 15:58 ar 10 Ebrill 2007, ysgrifennodd sanddef:

    Mae hyd yn oed Rhodri Morgan yn nabod nad yw poliau ITV Wales byth yn gywir, felly sioe yn unig yw unrhyw "hapusrwydd" ar ei ran o.

  • 3. Am 16:15 ar 10 Ebrill 2007, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    Mae modd gweld copi o'r maniffesto (yn Saesneg yn unig) arlein yma:

    Siomedig iawn yw polisiau Llafur ar yr Iaith Gymraeg!

  • 4. Am 17:59 ar 10 Ebrill 2007, ysgrifennodd Llafur Cymru:

    Gellir gweld copi o'r maniffesto yn Gymraeg yma:

  • 5. Am 18:37 ar 10 Ebrill 2007, ysgrifennodd Cai Larsen:

    Pwy sydd wedi cynnal yr arolwg?

    Esboniad ar ei ffordd - Vaughan

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.