Pôl !!!
Fe fydd y Western Mail yn cyhoeddi canlyniadau arolwg barn bore fory (Mercher). Dyw'r arolwg ddim yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â'r ffordd y mae pobol yn bwriadu pleidleisio (fe ddaw hwnnw wythnos nesaf). Serch hynny yn wyneb datblygiadau heddiw mae 'na ddeunydd tra diddorol ynglŷn â pha bleidiau y mae'r etholwyr yn dymuno eu gweld yn cynghreirio a'i gilydd mewn cynulliad heb fwyafrif. Dwi wedi gweld y canlyniadau ond fe fyddai Martin Shipton yn fy lladd pe bawn i'n eu cyhoeddi nhw yn fan hyn!
SylwadauAnfon sylw
Wyt ti wedi gweld data craidd y pol?
Oes gobaith cal pôl o rhyw fath gan y Â鶹Éç?!?
Hedd, sori am beidio ateb hwn o'r blaen. Yn anffodus, nac oes.