Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Arolygon Barn

Vaughan Roderick | 11:40, Dydd Gwener, 27 Ebrill 2007

Ar ôl trafod y polau diweddara ar "Post Cyntaf" a "Good Morning Wales" doeddwn i ddim yn bwriadu blogio yn eu cylch ond gan fod sawl un wedi gofyn fy marn dyma ychydig o sylwadau.

Yr hyn sy'n drawiadol yw pa mor debyg yw'r canlyniadau. Dwi wedi lleisio fy amheuon o'r blaen ynglÅ·n â'r ffordd y mae polau NOP/ITV yn cael eu dadansoddi. Dwi'n edmygydd mawr o waith Beaufort, y cwmni oedd yn arfer cynnal arolygon Â鶹Éç Cymru cyn i'r rheiny gael eu gwahardd gan y gorfforaeth.

Mae'r ffaith bod y ddau gwmni, gan ddefnyddio dwy fethodoleg wahanol wedi cyrraedd casgliadau digon tebyg yn arwyddocaol. Maen nhw hefyd yn adlewyrchu canlyniadau arolygon eraill dwi wedi eu gweld (ond yn methu eu rhannu) a drefnwyd gan Golegau ac Ysgolion fel rhan o waith cwrs eu myfyrwyr.

Serch hynny mae'n rhaid cofio nad proffwydoliaeth yw pôl. Cyn etholiadau 2003, er enghraifft, roedd NOP/ITV yn darogan bod Plaid Cymru ymhell ar y blaen i'r Ceidwadwyr ond cael a chael oedd hi rhwng y ddwy blaid ar y noson.

Dwi hefyd yn meddwl (ac mae eraill yn cytuno) y bydd y bleidlais ranbarthol i bleidiau llai llawer yn uwch na mae'r arolygon yn tybio. Roedd hin 12% yn 2003 a byswn yn disgwyl pleidlais debyg neu fwy y tro yma.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:34 ar 27 Ebrill 2007, ysgrifennodd Daran:

    Ma William Hill yn cynnig ods sy'n dangos lot llai o wahaniaeth rhwng Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr nag yw'r poliau ma'n dangos. A fydd Karl y bwci yn cynnig ods wythnos nesa ar faint o seddi bydd pob plaid yn ennill?

  • 2. Am 13:27 ar 27 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Ond mai tri peth pwysig nad wyt wedi ystyried..

    'Turnout Turnout Turnout' fel byddai Kirstie Allsop ddim yn dweud...

    Wn i beth mae'r tywydd yn gwneud wythnos nesa - job i Derek Brockway efallai ?

  • 3. Am 14:30 ar 27 Ebrill 2007, ysgrifennodd Dewi_O:

    Yn ystod yr wyhtnosau diwethaf dwi heb sylwi bod llawer o newid yng nghefnogaeth y pleidiau o 2003 yng Nghymoedd De Cymru, os unrhywbeth bod Plaid Cymru yn colli cefnogaeth. Dros y diwrnodau diwethaf dwi'n teimlo fod rhywbeth mawr yn digwydd yng Nghaerffili a bod momemntwm newydd gan ymgeisydd y Blaid Lyndsay Whittle o bod Ron Davies yn debygol o gael tua 2000 i 2,500 o bleidleisau ac hyn yn creu cnlyniad agos yn yr etholaeth.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.