Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Win Morgan Llwyddiant busnes lleol
Tachwedd 2005
Mae Swyddfa'r Post Llangadog wedi dod i'r brig wrth ennill y Wobr Gymunedol i Swyddfeydd Post yn rhanbarth Cymru a'r Gororau.
Tipyn o gamp gyda chystadleuaeth gref oddi wrth nifer fawr o ganghennau eraill ar hyd a lled y wlad.

Dyma oedd gan Win Morgan y bost feistres (yn y llun) i'w ddweud. "Mehefin eleni dechreuodd y broses, pan oeddem yng nghanol yr holl waith o ail wneud y siop. Ac yng nghanol llanast yr adeiladwyr yr oedd ein cwsmeriaid yn fwy na pharod i lanw'r slipiau yn rhoi eu barn am y gwasanaeth a gynigir yma. Dyma'r drydedd flwyddyn i ni gystadlu, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig i dynnu sylw at gyfraniad swyddfeydd post i'w cymunedau.

"Mae nifer ohonynt yn cau ar hyn o bryd gan golli'r sgwrs a'r gymdeithas y mae'r cwsmeriaid yn ei fwynhau yma.

"Roedd mynd i Lundain i dderbyn y wobr yn Banqueting Hall, Whitehall yn dipyn o brofiad. Roedd y carped coch allan a'r camerâu yn fflachio o bob cyfeiriad, tipyn o seremoni yn wir. Ond pur anaml y cawn gyfle i fynd oddi yma, gyda'r siop ar agor rhwng 5 y bore a 6 yr hwyr. Ond os am gynnig y gwasanaeth gorau i'n cwsmeriaid, rhaid bod yn hyblyg."

Ond camgymeriad fyddai i chwi feddwl mai 'dyna ni' i Siop a Swyddfa'r Post Llangadog. Mae Win a'i gŵr Richard yn ceisio ffyrdd newydd o gynnig gwell gwasanaeth yn barhaus. Y bwriad yw ymestyn oriau'r Swyddfa Bost i wasanaethu pobl sy'n gweithio fedru defnyddio'r cyfleusterau sydd yno. Efallai eich bod wedi sylwi fod yna gaffi rhyngrwyd newydd agor yno, gan brofi ei fod yn boblogaidd gyda chwsmeriaid, ac er mwyn i bawb fedru mwynhau'r dechnoleg newydd gobeithir cynnig hyfforddiant yn y dyfodol agos.

Rwy'n siŵr y cytunwch fod gan bentref Llangadog wasanaeth heb ei ail yn ei swyddfa bost gymunedol. Gwasanaeth sy'n rhoi'r pwyslais ar safon a pharch at gwsmeriaid, a hynny mewn awyrgylch fodern a chyffrous.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý