Allwn ni ddim ond derbyn tystiolaethau eraill am yr hen blasty gan i J.Y.Barber, hynafiaethydd o Loegr, ddisgrifio'r plasdy fel adfail wrth iddo deithio drwy'r ardal ym 1803.
Yr oedd llinach y teulu Williams oedd yn berchen ar y lle yn y 17eg ganrif yn ddisgynyddion i Hywel Dda, Rhodri Mawr a Rhys ap Tewdwr, tad Nest. Trwy briodas, yn ddiweddarach, unwyd uchelwyr Rhydedwin â'r Fychaniaid Gelli Aur.
Bardd yn sôn am y plasdy Mae Lewis Glyn Cothi, bardd a oedd yn byw yn ystod ymgyrchoedd Syr Rhys ap Thomas o blaid Harri Tudur, yn sôn am Rhydodin.
Adnewyddwyd y plasdy ym mlynyddoedd cynnar y 18fed ganrif gan Syr Nicholas Williams un o bump o feibion Syr Rice Williams. Ym mlynyddoedd ola'r ganrif priododd Bridget merch John, brawd Nicholas a Robert Hodgkinson, wr o Overton. Ef fu'n gyfrifol am ail adeiladu pont Rhydodin ar draws yr afon Cothi. Cyflawnwyd y gwaith gan un o feibion William Edwards a gynlluniodd y bont ym Mhontypridd.
Yng nghanol y 19eg ganrif mae Samuel Lewis yn sôn bod Rhydodin mewn cyflwr da. Dyma'r adeg pan ychwanegodd Syr James Williams at yr hen dy.
Cychwyn cyfnod newydd wnaeth y briodas rhwng Mary Eleanor merch Syr James a Syr James Drummond, gwr o Midlothian, Yr Alban. Fe unwyd un o deulu tywysogion Cymru â'r Drummond, yn wreiddiol o Perth.
Roedd teulu'r Drummond yn un o deuluoedd enwocaf Yr Alban. Bu Syr James Drummond yn deyrngar i'r ystâd ac i'r gymuned leol a bu'n Gynghorydd Sir dros ardal Llansawel hyd ei farw ym 1913.
Gadael y plasdy i'r bwtler Bu farw'r olaf o deulu'r Drummonds ym 1970 gan adael y cyfan i'r bwtler! Claddwyd y mwyafrif o linach Rhydodin ym mynwent Eglwys Talyllychau.
Wedi i amryw o wahanol denantiaid newid ac addasu'r adeiladau, mae'r ystâd 692 erw sy'n cynnwys bythynnod gwyliau erbyn hyn, ar fin newid dwylo unwaith eto a'r perchennog presennol Jonathan Heron yn gwerthu'r ystâd am £2 filiwn. Tybed a oes gan rhyw Gymro Cymraeg boced go ddofn!
(Seiliwyd yr hanes ar erthygl yn y Carmarthenshire Historian)
|