Aeth grŵp ohonom yn ddiweddar ar daith drên o orsaf Llandeilo i ymweld â'r Cynulliad ym Mae Caerdydd. Roedd pris tocyn i'r grŵp yn rhesymol, yn £7 y pen. Cyrhaeddom ardal y Bae, o orsaf rheilffordd y ddinas, yng Nghar y Bae, ac aethom yn syth i ymweld ag adeilad Glanfa'r Cynulliad, adeilad sy'n perthyn i Oes Fictoria.
Mae'r adeilad yn rhan o ystad y Cynulliad ac yno ceir arddangosfa o waith y Cynulliad. Roedd siop yno hefyd inni gael prynu nwyddau i'n hatgoffa o'r ymweliad. Deallasom fod y Lanfa yn adeilad gwahanol i'r Senedd - maent serch hynny yn symbolau o'u cyfnod gyda gwydr, pren a llechi modern y Cynulliad yn cyferbynnu â cherrig coch traddodiadol adeilad y Lanfa. Yn y Lanfa cawsom ein hebrwng at ddau o'n harweinyddion a fyddai yn ein tywys trwy gydol y dydd, sef Dilwyn Young Jones, nai y Parch John Young, cyn-weinidog Capel Providence, Cwmdu a Richard Gwyn Jones.
Ar ôl gadael adeilad y Lanfa aethom yn syth i ymweld ag adeilad y Cynulliad. Bu rhai'n archwilio ein heiddo yn fanwl cyn inni fynd i mewn i'r adeilad. Yna ymlaen i weld y Neuadd. Dyma'r man cychwyn, sef y prif fan cyfarfod. Ceir yno lawr llechi eang, ac roedd y golygfeydd dros Fae Caerdydd yn odidog.
Dringwyd y grisiau llechi wedyn i fyny i'r Oriel. Yr oedd strwythur pren ynghanol yr Oriel yn rhan o'r twndis sy'n nodweddu dyluniad yr adeilad, ac sy'n rhan o'r system awyru naturiol. Wrth i ni edrych i fyny ar y twndis gwelsom gwfl gwynt a llusern. Mae'r cwfl yn troi gyda'r gwynt ac yn creu gwasgedd negyddol i ryddhau aer o'r adeilad. Mae hyn yn cadw tymheredd y Senedd yn gyfforddus heb fod angen system awyru gonfensiynol.
Cawsom wybod mai islaw'r adeilad, yn ddwfn yng nghreigwely Bae Caerdydd, ceir system wresogi o'r ddaear, sef cyfres o bibau sy'n creu gwres cyfnewidiol. Mae'r system ddwy neu dair gwaith yn fwy effeithiol na system gonfensiynol o ran arbed ynni. Ceir Dwyler biomas hefyd sy'n llosgi pren mewn ffordd eco¬gyfeillgar i wresogi'r adeilad. Clywsom fod yr holl nodweddion hyn yn sicrhau gostyngiad o 40% yn y gost o redeg yr adeilad. Buom yn ymweld â'r dair ystafell bwyllgora, is yna tua chanol dydd aethom allan i gael pryd reit flasus o bysgod a sglodion, ym mwyty Harry Ramsden, sydd dafliad carreg o'r Cynulliad.
Aethom yn ôl i'r Cynulliad ar ôl cinio ac aethom i mewn i'r siambr am awr a hanner i wrando ar y Cyfarfod Llawn, ble gawsom gyfle i wylio ac i wrando ar aelodau o'r pleidiau yn gofyn cwestiynau i Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan. Yr oedd cerflun gwydr ar ganol y llawr, a cheir seddi i drigain o Aelodau'r Cynulliad o amgylch y cerflun hwn. Mae'r Llywydd, Dafydd Elis Thomas, yn wynebu'r Aelodau gyferbyn â'r Gweinidogion. Mae cefnogwyr y Llywodraeth yn eistedd y tu ôl i'r Prif Weinidog a'r Gweinidogion ac mae aelodau'r pleidiau eraill yn eistedd bob ochr i'r Llywydd.
Lleolir byrllysg Cynulliad Cendlaethol Cymru o flaen y Llywydd. Rhodd i'r Cynulliad gan Senedd De Cymru Newydd, Awstralia, yw'r byrllysg hwn, a chafodd ei gyflwyno i'r Cynulliad ar 1 Mawrth 2006 yn ystod yr Agoriad Brenhinol gan y Frenhines. Gwelsom fod gan bob aelod system gyfrifiadurol o'r radd flaenaf, hefyd glustffonau i ddarparu gwasanaeth cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg neu o'r Gymraeg i'r Saesneg.
Yr oedd y rhan fwyaf o'r cwestiynau gan Blaid Cymru yn cael eu gofyn yn yr iaith Gymraeg ac felly roedd y Prif Weinidog yn eu hateb yn Gymraeg. Yr oedd ambell i gwestiwn llosg yn cael ei ofyn, ac atebai'r Prif Weinidog yn ei ddull ffraeth arferol. Pan ddigwyddai hyn yr oedd Aelodau yn y Siambr yn dechrau chwerthin, a byddai'r Llywydd yn ymateb trwy yngan y geiriau 'Order! Order!'
Aeth yr awr a hanner heibio yn weddol gyflym a defnyddiom Gar y Bae i fynd o'r Bae i Orsaf Caerdydd. Ryw fws hir un llawr yw Car y Bae ac mae'n dal 132 o bobl. Os ydych wedi teithio ar y trên i Gaerdydd, cewch ddefnyddio eich tocyn i sicrhau taith ar y bws hwn yn rhad ac am ddim.
Bwriedir cynnal digwyddiad tebyg yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar ôl yr Etholiad. Efallai yr eir ym mis Medi. Cysylltwch â mi cyn gynted a phosib i sicrhau lle. Oherwydd rheoliadau Iechyd a Diogelwch, pymtheg person yw'r mwyafrif mewn un grŵp a all fynd i mewn i'r Siambr i glywed y Cyfarfod Llawn, a dyna dybiwn i yw uchafbwynt yr ymweliad.
Hywel Jones
Mwy am y Senedd a'r Cynulliad Cenedlaethol