Wel, mae'r Å´yl wedi profi i fod yn un wefreiddiol eleni eto gyda'r niferoedd mynychu i fyny ar y llynedd i tua 2,200 o bobl! Cawsom lond trol o weithgareddau a nosweithiau llwyddiannus iawn.
Agorwyd yr wythnos gan Lywydd yr Wyl, Heledd Cynwal, mewn digwyddiad llawn bwrlwm yn Llangadog ar 23 Mehefin wrth inni ddiddanu plant ifancaf y dyffryn mewn Mabolgampau Meithrin. Cafwyd bore hyfryd wrth i'r plant fynd amdani a phawb yn derbyn tystysgrif neu fedal.
Ar y dydd Sadwrn, heriwyd staff y Fenter gan rai o bobl ifanc yr ardal drwy gael cystadleuaeth 'Paintballing' ym Mharc Culla, Trimsaran. Fe'm seiniwyd nos Sul mewn Cymanfa Ganu yng Nghapel y Tabernacl, Ffairfach wrth i ni ddathlu lleisiau'r ardal yng nghwmni aelodau rhai o gapeli a chorau'r ardal gyfan, dan arweiniad Owain Gruffydd i gyfeiliant Eleri Honour ar yr organ.
Cwis, dishgled a chlonc!
Cafwyd newid cywair nos Lun wrth fynd i Glwb Rygbi Llanymddyfri i ymuno â Nigel Owens mewn Cwis Chwaraeon. Daeth 10 tîm ynghyd gyda Chlwb Criced Llanymddyfri yn dod i'r brig wedi gornest dda!
Yn gynnar bore dydd Mawrth daeth criw o ddysgwyr Cymraeg ynghyd i Gegin Fach y Gwili, Llandeilo er mwyn cael dishgled a chlonc.
Nos Fawrth wedyn, cafwyd noson o fwynhad pur yn Neuadd Pumsaint wrth i naw bardd lleol ddod ynghyd i gystadlu mewn Stomp. Tudur Dylan oedd yn arwain a chafwyd noson hwylus
iawn, wrth i'r beirdd profiadol a llai profiadol ddarllen eu cerddi! Gwelwyd Esme Jones, John Rhys Evans ac Eirwyn Jones yn y rownd derfynol a chipiwyd y darian gan Eirwyn.
Cafwyd llu o weithgareddau ar Gae Wiliam, Llandeilo ar y nos Fercher pan heidiodd timau ifanc yno i gystadlu, i wlychu ac i fwynhau.
Dilynwyd y nos Fercher gan noson sychach a hamddenol nos Iau yng nghwmni Lyn Ebeneser yn Nhafarn y New Cross, Dryslwyn. Bu'n siarad am ei brofiadau a'r gwahanol gyfnodau yn ei fywyd a chafodd y gynulleidfa noson hwylus a hwyliog tu hwnt.
Cerddoriaeth fyw
Daeth uchafbwynt yr wythnos pan gafwyd dwy noson o gerddoriaeth fyw yng nghwmni rhai o brif artistiaid Cymru gyda bron i 1,500 o bobl yn mynychu yn ystod y penwythnos. Tyrrodd y torfeydd i fferm Glangwenlais, Cil-y-cwm ar nos Wener 30 Mehefin i wrando ar Dafydd Iwan a'r Band, Elin Fflur a'r Band, Celsain a Tangwystl, a braf oedd gweld y bandiau ifanc yn rhannu llwyfan gyda'r enwogion!
Cafwyd dechrau addawol i'r noson gan Tangwystl cyn i ni glywed y band lleol o Lanymddyfri, Celsain yn ein diddanu gyda pherfformiad safonol iawn a braf yw medru dilyn datblygiad y grŵp dros y blynyddoedd.
Cafwyd perfformiad penigamp wedyn gydag Elin Fflur cyn croesawu Dafydd Iwan i ganu yn ei gyngerdd 'mawr' cyntaf ers cryn amser. Braf oedd clywed yr hen ffefrynnau adnabyddus yn cael eu canu ac roedd ymateb y gynulleidfa yn wych gyda phob enaid byw a oedd yno wedi dod i'r prif adeilad i wrando. Roedd yno ryw 750 o bobl o bob oed wedi dod i fwynhau'r wledd o gerddoriaeth fyw ac ni chafodd neb ei siomi.
Bryn Fôn a'r Band, Mattoidz, Coda ac Amlder a ddiddanodd y dorf ar y nos Sadwrn, a hyfryd unwaith eto oedd gweld y bandiau newydd a'r rhai profiadol yn rhannu llwyfan. Agorwyd y noson yn fywiog gydag Amlder a chafwyd perfformiad gwych i ddilyn gan Coda, sef enillwyr Brwydr y Bandiau C2 a Mentrau Iaith Cymru. Daeth yr Ŵyl i ben gyda pherfformiadau safonol iawn yn ôl yr arfer gyda Mattoidz a Bryn Fôn a'r Band.
Edrych ymlaen
Pleser mawr eleni oedd gweld dros 200 o bobl wedi gwersylla ar y safle er mwyn bod yn rhan o fwrlwm yr Ŵyl tan y noson olaf. Diolch o galon i berchnogion Glangwenlais, Tegwyn a Mair Davies am eu croeso cynnes ac am bob cydweithrediad a chefnogaeth, i Gymdeithas Gymunedol Cil-y-cwm a'r gwirfoddolwyr lleol ac i wirfoddolwyr a staff Menter Bro Dinefwr am eu cefnogaeth a'u holl waith caled yn ystod yr Ŵyl gyfan. Edrychwn ymlaen nawr at ddechrau trefnu Gŵyl Bro Dinefwr 2007 gan edrych i dyfu a datblygu eto ar lwyddiant Gŵyl 2006. Gobeithio y cawn eich gweld chi yno!