Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tachwedd 2004 Merched Dinefwr ar y pull
Tachwedd 2004
Hynt a helynt tîm merched tynnu rhaff Llangadog.
Yn athrawon, yn ferched swyddfa ac yn fyfyrwyr, eleni eto brwydrodd merched tynnu rhaff Llangadog i gipio teitlau haeddianol i'w henwau. Daeth y shorts cwta, y sgidie ffeminin, y belt mawr a'r pendantrwydd allan i wynebu her ar ôl her am flwyddyn arall.

Bwriad ein hyfforddwyr oedd i ni wneud ychydig o'r ymarfer gaeafol 'ma - rhedeg a chwysu fel syrthia'r eira! Fe sylweddolom y byddai "hunan ddisgyblaeth" yn air pwysig eleni. Roedd arholiadau ysgol a choleg yn wynebu rhai, a galwadau swyddi yn pwyso ar y gweddill.

Aeth llawer noson o ymarfer pan gorfu i ni ymarfer mewn glaw trwm - a'r dŵr yn rhedeg i lawr ein coesau! Ar un o'r nosweithiau hynny, fe'n gorfodwyd i ymarfer tu fewn, ar yr indoor mats. Rhaid defnyddio sgiliau gwahanol ar y rhain, ac mae'n wir eu bont yn bethe bach digon caled ar y breiche, er i un neu ddwy ddangos brwdfrydedd mawr arnynt!

Fel gŵyr pawb erbyn hyn mae'n siŵr, mae "pwyso" yn ffactor hanfodol yn y math hwn o gystadlu - weithiau, rhaid i ni newynu cyn camu ar y glorian, ac yna bwyta popeth o fewn cyrraedd cyn mynd at y rhaff rhyw ddwy awr yn hwyrach!

Hyn oedd yr hanes ar ddiwrnod pencampwriaeth tynnu rhaff Cymru ar Gae William, Llandeilo. Fe'n siomwyd ni braidd y diwrnod hwnnw, ond ni pharodd y teimlad hwnnw yn rhy hir oherwydd rhaid oedd teithio i fyny i Stoneleigh yn hwyr y prynhawn. Arhosom mewn lle swanc iawn ac roedd yn dipyn o drueni mai dim ond am noswaith ro'n ni yno! Fe wnaethom ni ennill y trydydd safle allan o ddeg tîm, ac fe'n plesiwyd yn fawr!

Wedi rhoi'r gystadleuaeth hon o'r neilltu, rhaid oedd canolbwyntio ar Lanelwedd unwaith eto. Ro'n ni i gyd yn barod am bythefnos o lafur caled - ro'n ni am ennill y teitl hwn eleni eto er mwyn ymweld â Stoneleigh y flwyddyn nesa. Fe gyrhaeddodd wythnos y sioe, ac roedd y nerfau yn eithaf tawel ... nes bore Mercher! Fe wnaethom ni fwynhau'r sioe yn fawr iawn a bu'r dathlu yn gampus brynhawn a nos Fercher ar ôl i ni gipio'r wobr! Ro'n ni wedi ei gwneud hi!

Wedi sobri ar ôl llwyddiant y sioe, dychwelyd i Lanfynydd am fwy o ymarfer fu'n hanes. Y gystadleuaeth nesaf, a'r olaf ar yr agenda oedd y trip i bencampwriaethau'r DU yn Halkyn, gogledd Cymru. Wel, am benwythnos a hanner! Cawsom ofn wrth gamu ar y glorian greulon ar y nos Wener ar ôl cyrraedd - roedd lot fawr o bwysau 'da ni i'w golli!

Cyn terfynu'n tymor, cawsom ychydig o hwyl wrth dynnu'r rhaff mewn dwy sioe arall, sef Llandeilo a Chynwyl Elfed. A dyna ni erbyn hyn wedi rhoi'r shorts i gadw, wedi hongian y 'sgidie a'r belt, a chloi'r pendantrwydd yn y bagie ymarfer... tan y flwyddyn nesa!

gan Ferched Tynnu Rhaff Llangadog (dan ofal Prosiect Papurau Bro)


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý