Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Atsain Llwyddiant Atsain
Hydref 2004
Erys dydd Iau, 5 Awst yn y cof am flynyddoedd i ddod fel un o uchafbwyntiau Haf 2004.
Dyma'r diwrnod yr aeth llond bws o aelodau petrusgar Côr merched Atsain, Llandeilo (gwelir rhai ohonynt yn y llun) ar y daith hir i Gasnewydd i gystadlu yn y gystadleuaeth i gorau merched yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Wedi cyrraedd y ddinas, aethpwyd yn syth i Gapel Mynydd Seion, Hillside i gael ymarfer byr, cyn symud ymlaen i fwrlwm y maes, cofrestru, siarad â'r ymchwilwyr teledu a gosod ein dillad (newydd!) yn yr unig ystafell wisgo oedd ar ôl, cyn cael ein heidio i ffwrdd i gael cyfweliad ar gyfer S4C digidol gyda Shân Cothi. Yna, mewn dim o amser roeddem ar y llwyfan ar un o ddiwrnodau poetha'r haf -ac Owain ein arweinydd yn ein siarsio i "fwynhau'r profiad!"

Digwyddodd rhywbeth hudol ar y llwyfan y diwrnod hwnnw - roedd pob un ohonom yn benderfynol i roi o'n gorau ac aeth hyd yn oed y darn gosod llafurus (Salm 23, Schubert) yn rhyfeddol o dda! Daeth pawb o'r llwyfan yn hapus â'r perfformiad ond anodd oedd gwybod beth i'w ddisgwyl gyda saith o gorau safonol iawn yn y gystadleuaeth.

Wrth i'r feirniadaeth nesáu, roedd sibrydion cadarnhaol yn dechrau ein cyrraedd gan rai oedd yn 'gwybod eu stwff' ond ni feiddiwyd codi gobeithion. Pan ddechreuodd y beirniad Gwyn L. Williams draddodi'r feirniadaeth roedd hi'n amlwg ein bod wedi plesio ond roedd hi'n foment a hanner pan gyhoeddwyd ein bod wedi dod yn ail gyda Chôr Merched Canna, Caerdydd yn gyntaf a Chôr Cofnod, Caernarfon yn drydydd. Ffrwydrodd cefn y pafiliwn wrth i ni glywed y newyddion da a bu'n rhaid i'r beirniad, druan gymryd saib go hir cyn cyhoeddi enw'r buddugol. Allech chi dyngu ein bod wedi ennill y Loteri!

Ni fyddai'r llwyddiant wedi dod i'n rhan heblaw am ymroddiad aelodau'r côr ond yn bennaf rhaid diolch o galon i Owain Gruffydd ein arweinydd amyneddgar ac egnïol am ei holl waith trylwyr yn ein paratoi ac i'r cyfeilyddion Rhiannon Griffiths a Gareth Wyn Thomas am roi o'u hamser i'n cynorthwyo. Diolch hefyd i nifer o bobl leol am ddod i'n cefnogi yn y pafiliwn. Roedd hi'n braf clywed eich cefnogaeth wrth adael y llwyfan! Oedd, roedd 5 Awst yn un o ddiwrnodau brafia'r haf ym mhob ystyr.

MVJ


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý