Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Mansel Charles Anrhydedd yr Eisteddfod i Mansel
Medi 2005
Cafodd Mansel Charles o Lanegwad ei urddo i'r Wisg Werdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni am ei gyfraniad i fywyd diwylliannol Dyffryn Tywi.
Gyda llawenydd mawr y daeth y newyddion i ddarllenwyr Y Lloffwr fod Mansel Charles o Lanegwad wedi cael ei urddo i'r Wisg Werdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni am ei gyfraniad i fywyd diwylliannol Dyffryn Tywi.

Mansel oedd un o sylfaenwyr Y Lloffwr, a dros y blynyddoedd ers ei sefydlu ym 1978 cyfrannodd yn gyson fel gohebydd ac aelod o'r Bwrdd Golygyddol. Dros yr wyth mlynedd ddiwethaf bu'n gweithredu'n ddiwyd fel Uwch Olygydd a chyn hynny fel Cadeirydd y papur.

Yn ddiweddar bu Mansel yn Gadeirydd ar brosiect arloesol a gafodd nawdd Ewropeaidd i gynorthwyo pump o bapurau bro yn y sir ac mae of newydd ddechrau ar gyfnod fel Cadeirydd 'Diwylliant Byw' sef prosiect Ewropeaidd arall a sefydlwyd er mwyn hybu gweithgaredd celfyddydol a diwylliannol yng nghymunedau gwledig Sir Gâr.

Fel y gŵyr pawb sy'n ei adnabod mae Mansel yn ffermio buches o wartheg Duon Cymreig ac newydd ymddeol ar ôl gwasanaethu Undeb Amaethwyr Cymru fel swyddog rhanbarthol am un mlynedd ar hugain. Er ei brysurdeb yn gwarchod buddiannau ffermwyr Gogledd Sir Gâr llwyddodd i gyfrannu'n helaeth iawn i fywyd diwylliannol yr ardal. Bu'n gysylltiedig â Mudiad y Ffermwyr Ifainc dros gyfnod o ddeugain mlynedd - yn lleol gyda Chlwb Cwrt Henri ac yn sirol fel Cadeirydd a Llywydd, ac fe'i anrhydedd d fel 'aelod am oes' am ei waith nodedig gyda'r mudiad.

Roedd Mansel yn un o sylfaenwyr Menter Bro Dinefwr ac yn Gadeirydd am y tair blynedd gyntaf gan osod sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol. Bu'n aelod o Gyngor Bro lleol ers 1977 ac yn Gadeirydd ar dri achlysur. Pan fu'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Dinefwr ym 1996 roedd Mansel yn aelod diwyd o'r Pwyllgor Gwaith ac yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cyhoeddusrwydd.

Ar ben hyn oll y mae yn ŵr sydd wedi cefnogi llu o elusennau lleol a sirol ac yn amlwg ei gefnogaeth i bopeth sydd yn ymwneud â'r pethe yn yr ardal. Llongyfarchiadau mawr iddo ar ran holl ddarllenwyr Y Lloffwr ar ei anrhydedd diweddar gan ddymuno pob iechyd iddo i barhau i wasanaethu'r ardal am nifer o flynyddoedd eto.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý