Llongyfarchiadau i Eynon Price, Fferm Brynhyfryd, Llandeilo, am ennill gwobr gyntaf ym Mhencampwriaeth Hill Climb Prydain 2008.
Cyrhaeddodd Eynon y brig yn y dosbarth 1100cc i 1600cc ar ôl 17 o wahanol gystadlaethau dros Brydain gyfan, yn ogystal ag yn Jersey a Guernsey.
Cyflwynwyd y wobr iddo mewn seremoni wobrwyo yng Ngwesty'r Chateau Impney yn Droitwich yn ddiweddar.
Bwriad Eynon yw ailgydio yn yr ymarfer ym mis Mawrth cyn dechrau cystadlu yn Ebrill.
Mi fydd rhaglenni Wedi 3, Wedi 7 a Ralio yn dilyn ei hanes rasio - a'r Lloffwr wrth gwrs!
Gyda'r car newydd yn barod, mae tymor rasio 2009 yn argoeli i fod yn un addawol a chyffrous iawn i Eynon.
|