Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llew Davies Llew yng Nghwmderi
Mawrth 2006
Fe fydd ambell un o wylwyr cyfres Â鶹Éç Cymru Pobol y Cwm yn adnabod wyneb newydd y Cwm, sef Llew Davies sy'n action cymeriad Chris, mab Brandon.

Daeth i amlygrwydd mewn cyfresi fel Darn o Dir, Rownd a Rownd, Pam Fi Duw? a drama newydd slic S4C, Caerdydd.

Ond bydd cryn dipyn o ferched y tu hwnt i Gymru hefyd wedi sylwi ar yr actor golygus o Salem, Llandeilo, gan iddo ymddangos yn rhestr fer cystadleuaeth 'Bachelor of the Year' gan gylchgrawn Company ddwy flynedd yn ôl. Er, mae'n cyfaddef na gymerodd y peth yn ddifrifol iawn...

"On i'n meddwl taw jôc oedd e am ages," meddai'r mab fferm 26 oed. "Ond pan es i lawr i Lundain i'r digwyddiad, nes i a sylweddoli bod pobol yn ei gymryd e mor ddifrifol! Roedden ni yn gorfod cerdded lawr catwalk, ac oedd pawb yn newid ac yn cymryd oriau i wneud eu gwalltie'. Es i mas yn yr un t-shirt ag oeddwn i yn gwisgo'n dod 'off' y bys, jyst 'da chwistrelliad sydyn o 'deodorant', na'r cwbl!"

Mae Llew wedi ymuno â Pobol y Cwm fel Chris, mab nad yw Brandon erioed wedi ei weld. Bu tipyn o gynhyrfu ar y dyfroedd hefyd wrth i'w ymddangosiad greu cryn tyndra rhwng Brandon a'i ddyweddi Julie. Er na welodd Chris erioed ei dad cyn hyn, buan iawn y daw'n amlwg bod gwaed yn dewach na dŵr.

"Mae Chris yn fachan digon hoffus, digon annwyl," meddai Llew, "a'r mwya' ych chi'n weld, y mwya' ych chi'n sylweddoli bod lot o waed y Monks yn ei wythiennau fe. Mae'n fachgen neis, ac ochr digon cheeky iddo fe. Ma fe wedi cael amser caled. Wedi colli ei lys-dad, ma fe'n mynd ati i drial ffindo mas pwy yw ei dad, sy'n ei arwain at Brandon. Ar y dechrau 'dyw Brandon na'r teulu ddim yn cytuno mai fe yw tad iawn Chris. Ond mae Chris yn dod nôl a nôl a nôl i Gwmderi nes maen nhw yn fodlon ei gredu fe. Ma hyn yn arwydd o'i bersonoliaeth e wy'n credu."

Er mai yn stiwdios Â鶹Éç Cymru yng Nghaerdydd y caiff y gyfres ei ffilmio, mae Llew yn dewis byw yn ei filltir sgwâr Llandeilo.

"Bues i yn y Royal Academy of Music, ac felly fues i yn byw yn Llundain am dair blynedd," meddai. "Sai'n credu ai byth yn ôl. Roedd hi mor flinedig byw mewn lle mor aggressive a prysur. Mae tawelwch yn gwneud lles i fi."


Cyfrannwch

Stacey o Rhydaman
Dw i'n meddwl bod llew yn ciwt! check him out girls!!!! welais i fe yn Rhydaman heddiw (13/03/08) yn ganol yr arced, seen him quite often.Ond dw i ddim yn hoffi ofyn am llofnod, achos falle mae nhw ddim yn hoffi pobl ei ofyn!Diolch a phob lwc i LlewStacey x
Thu Mar 13 18:21:17 2008


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý