Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Shân Cothi Taith Noddedig Shân
Hydref 2008
Mae Shân Cothi a'i ffrindiau wedi bod yn marchogaeth o amgylch Cymru i godi arian at elusen Amser Justin Time.

Soniwyd yn y rhifyn diwethaf bod Shân Cothi a chriw o'i ffrindiau am farchogaeth o Ogledd Cymru i'r De dros gyfnod o dair wythnos gan gychwyn ar 25 Awst.

Llongyfarchiadau iddynt oll ar gyflawni'r gamp gan lwyddo i godi arian sylweddol i elusen 'Amser Justin Time' - elusen a sefydlwyd gan Shân er cof am ei diweddar wr, Justin Smith, a fu farw o ganser y pancreas flwyddyn yn ôl ac yntau ond yn 42 oed.

Bydd yr arian a godwyd ar y daith yn cael ei ddefnyddio i ariannu gofal a thriniaeth i gleifion sy'n dioddef o'r canser hwn yng Nghymru, yn ogystal ag ariannu ymchwil arbennig yn y maes.

Cafodd trigolion Ffarmers a'r cylch y cyfle i groesawu Shân a'i ffrindiau yn ystod y daith.

Cyrhaeddodd y criw yn Ffarmers ar brynhawn Sadwrn, 6 Medi, yn ystod sioe Caeo a Llanycrwys.

Cafodd y ceffylau'r merlotwyr lety yn Ffarmers ar y nos Sadwrn cyn ail-gychwyn ar eu taith ar y bore Sul.

Daeth tyrfa o gefnogwyr i'r pentref ar y bore Sul i ffarwelio â'r criw, ac ymunodd dros hanner cant o ferlotwyr ar y daith o Ffarmers i Lanymddyfri dros Fynydd Mallaen.

Roedd yn ddiwrnod sych a chafwyd tipyn o hwyl.

Trefnwyd bod cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar hyd y daith i godi arian at yr elusen, ac yn eu plith, Cyngerdd a Chymanfa Fodern yn Neuadd Bro Fana ar y nos Sul.

Llywydd y noson oedd Mr David Thomas, Cilgerran, Prifathro Ysgol Ffarmers yn ystod y cyfnod y bu Shân yn ddisgybl yno.

Yn ei araith, cyfeiriodd at nifer o ddigwyddiadau difyr o'i gyfnod yn y pentref.

Cafwyd eitemau gan Gôr Rhianedd Rhys yn ystod y noson a chafodd y gynulleidfa gyfle i ganu amrywiaeth o emynau cyfoes o dan arweinyddiaeth Shân Cothi, a ddychwelodd o Lanymddyfri, yn dilyn diwrnod yn y cyfrwy.

Cafwyd noson hwyliog o dan arweinyddiaeth Ffion Jones, gyda Mared Tomos yn cyfeilio.

Llwyddwyd i godi dros £1,000 o'r digwyddiad hwn a gafodd ei noddi gan Fanc Lloyds TSB, a'r bwriad yw cyflwyno siec i Shân ar Nos Sadwrn, 11 Hydref, pan fydd Côr Dydd yn perfformio yn Neuadd Bro Fana.

Yn ogystal â hyn, cafwyd cyfraniadau hael gan gefnogwyr ar ddydd y Sioe ac ar y bore Sul, a llwyddodd y merlotwyr i godi swm sylweddol trwy nawdd.

Erbyn hyn, rhyddhawyd sengl a fideo yn dwyn y teitl 'I Believe' er budd yr elusen.

Fe'i recordiwyd gan Shân Cothi, Bryn Terfel, Tigertailz (y band y bu Justin Smith yn aelod ohono) a Chôr Serendipity.

Ceir y manylion llawn ar wefan amserjustintime.org a gellir hefyd gyfrannu at yr elusen ar y dudalen we honno.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý