Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Carreg i goffau Gwenllian Cofio Gwenllian
Mehefin 2002
Yng nghanol yr holl bwyslais ar ddathlu Jiwbilî Aur y Frenhines Elisabeth, beth am i ni'r Cymry dreulio ychydig o amser yn cofio am ein gwir deulu brenhinol.
Dydd Mercher, 12 Mehefin, yw Dydd y Dywysoges Gwenllian a braf yw gweld hyn yn cael ei nodi'n swyddogol yn nyddiadur y Lolfa.

Nid oedd Gwenllian ond ychydig fisoedd oed pan laddwyd ei thad Llywelyn ein Llyw Olaf ar 11 Rhagfyr 1282 yng Nghilmeri. Roedd ei mam, Eleanor de Montfort, wedi marw wrth roi genedigaeth iddi ym Mhlas Pen-y-Bryn, Abergwyngregyn ger Bangor ar 12 Mehefin 1282.

Aeres Tywysogion Gwynedd
Nid oedd gan Gwenllian unrhyw frodyr i gymryd y teitl Tywysog Cymru ond fel merch i'r Tywysog Llywelyn, hi oedd aeres Tywysogion Gwynedd a theulu brenhinol Aberffraw.

Roedd yn Dywysoges Cymru ac oherwydd hyn, cynrychiolai berygl sylweddol i frenin Lloegr.

Fe'i tynghedwyd, ar orchymyn Edward 1, i dreulio gweddill ei bywyd mewn priordy o'r urdd Gilbertaidd yn Sempringham yn swydd Lincoln.

Gofynnwyd i'r prior ei gwarchod am y swm anrhydeddus o £20 y flwyddyn a chadwodd Edward deitl 'Tywysog Cymru' i'r goron gan ei roi i'w fab Edward. Cafodd Edward ei arwisgo yng Nghaernarfon ym 1301 yn 17 oed.

Er i Gwenllian gael ei hanfon i Sempringham i'w rhwystro rhag chwarae rhan yn hanes Cymru, roedd brenin Lloegr yn barod i'w defnyddio i'w fantais ei hun os oedd rhaid.

Ysgrifennu at y Pab
Pan brofodd Sempringham anawsterau ariannol, ysgrifennodd Edward at y Pab i ofyn am gymorth, gan ei atgoffa mai'r prior oedd gwarchgeidwad merch Llywelyn, Tywysog Cymru.

Treuliodd Gwenllian ei bywyd yn Sempringham ac yn ôl pob tebyg, ni siaradodd air o'i mamiaith erioed. Drwy gydol ei chyfnod yn y priordy, ni lwyddodd y Saeson i gael ei henw'n llawn: fe'i rhestrir dan yr enw 'Wencilian' yng nghofrestri'r priordy ac mae'n debyg iddi hi ei hun arwyddo'i henw fel 'Wentaline'.

Yn ôl cofnodion y priordy bu farw Gwenllian ym 1337, wedi 54 o flynyddoedd yn yr urdd. Llwyddodd Edward i sicrhau na fyddai etifedd Llywelyn ein Llyw Olaf yn chwarae rhan yn hanes Cymru. Nid yw'n hawlio mwy na chyfeiriad byr yn y llyfrau hanes a hyd yn ddiweddar iawn bu'n angof yn Sempringham.

Gosod carreg goffa
Sut bynnag, yn dilyn ymgyrch dan arweiniad y Capten Richard Turner o Gaernarfon a'r awdures Angharad Tomos, ym 1993, gosodwyd carreg goffa o lechen las Gymreig yn Sempringham yn dwyn yr ysgrif:

Er cof am Gwenllian
Merch Llywelyn ein Llyw Olaf
Ganed yn Abergwyngregyn 12.6.1282
Bu farw yw Sempringham 7.6.1337
Wedi bod yn garcharor yno am 54 mlynedd

Ym 1996 sefydlwyd Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian er mwyn gofalu am y gofeb a chadw cof Gwenllian yn fyw. Ym 2001 gosodwyd cofeb newydd yn Sempringham ac mae arddangosfa amdani yn yr eglwys leol, Eglwys Sant Andreas.

Mae'r Gymdeithas, ynghyd â Chymdeithas Owain Lawgoch, yn ystyried gosod ffenestr liw fach yng Nghadeirlan Bangor i goffáu'r 'Plant Coll', sef plant Llywelyn a'i frawd Dafydd.

(Nodyn gan olygydd Y Lloffwr - seiliwyd yr uchod ar erthygl gan Sian Beidas i Gestyll Cymru)



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý