Os bydd y tywydd yn brathu a'r nosweithiau tywyll yn diflasu yn y flwyddyn newydd, bydd dim rhaid chwilio am esgus i aros mewn o flaen y tân, achos mae cyfres ddrama newydd yn dechrau ar S4C yn y flwyddyn newydd, ac mae'n argoeli i fod yn un arbennig.Yn fwy na hynny, merch leol, sef Siwan Jones o Ddryslwyn sydd wedi ysgrifennu'r gyfres ddrama hon, ac roedd ei gŵr Emyr Wyn yn ymgynghorydd sgriptiau.
Felly, o gofio bod y ddau yn aelodau mewn corau lleol eu hunain - Siwan yn aelod o gôr merched Atsain, ac Emyr yn aelod o gôr Bois y Castell, maen nhw'n gwybod beth mae'n nhw'n sôn amdano. Ond mae Siwan yn gyflym iawn i bwysleisio mai hollol ddychmygol yw popeth yn y gyfres.
"Fe wnes i siarad gydag aelodau nifer o gorau," meddai Siwan, cyn ychwanegu gan chwerthin "ond dyw e ddim wedi selio ar unrhyw brofiadau personol, er bod Emyr a fi wedi trafod nifer o syniadau gyda'n gilydd, ac Emyr wedi bod yn rhyw fath o ymgynghorydd gan ei fod e'n aelod o gôr meibion ei hunan. Ond fe allai hwn fod yn gôr meibion yn unrhywle!"
Côr Meibion Gwili, sef côr meibion dychmygol o orllewin Cymru yw'r sêr yn Con Passionate, a byddwn ni'n cael ein harwain trwy flwyddyn gyfan o hynt a helyntion aelodau'r côr a'u harweinyddes unigryw, sy'n cael ei phortreadu gan neb llai na' Shân Cothi, sy'n gwneud ei hymddangosiad cyntaf mewn drama deledu yn y gyfres.
Fel yr awgryma'r teitl, mae'r gyfres yn llawn angerdd, a llawer, llawer mwy! Yn gymysgedd o hiwmor du, ffantasïau a breuddwydion, cawn gyfle i ddod i 'nabod y cymeriadau a'u dyheadau, a does dim dal beth sydd rownd y gornel!
"Mae'n cynnwys elfennau o fiwsical a thriller" meddai Siwan, "ac mae'n delio gydag angerdd bywyd, hunaniaeth ac obsesiwn. Mae'n gofyn y cwestiynau, "Odych chi'n nabod y person sy'n sefyll drws nesa' i chi yn y côr? Odych chi'n nabod y person sy'n rhannu'r un gwely â chi ? Odych chi'n nabod eich hunan?"
Mae arweinyddes y côr, sef Miss Davina Roberts â digon o fynd iddi! Mae'n dod â llawer o gynnwrf a chyffro i'r gyfres, a doedd gan Siwan ddim amheuaeth mai Shân Cothi fyddai'r gorau i actio'r rhan.
"Ro'n i wedi dechrau meddwl am y gyfres cyn cwrdd â Shân," meddai Siwan, "ond fe ddaeth hi fel gwestai gwadd i ginio Nadolig Bois y Castell un flwyddyn, ac wedi cwrdd â hi'n iawn ro'n i'n gwybod yn syth taw hi oedd yr un i chwarae'r rhan!
Efallai bod Siwan yn fwy adnabyddus i lawer fel sgriptwraig Tair Chwaer, a ddarlledwyd ar S4C rai blynyddoedd yn ôl, ond mae hi wedi bod yn ysgrifennu ers nifer o flynyddoedd, ac wedi cael cryn flas arni.
"Wnes i ddechre ysgrifennu o ddifri yn ystod seibiant pan ro'n i'n actio ar Coleg ac yn raddol cymerodd yr holl beth drosodd " meddai Siwan.
O fewn dim, cafodd lwyddiant wrth ennill y wobr gyntaf am sgript ffilm yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a maes o law fe enillodd wobr BAFTA Cymru am yr awdur gorau ar gyfer y sgrin yn 1997,1998 a 1999 am Tair Chwaer.
Edrychwn ymlaen yn eiddgar i weld a chefnogi gwaith Siwan yn Con Passionate yn y flwyddyn newydd, a dymunwn pob dymuniad da iddi gyda'r gyfres.
Gan: Aled Vaughan
Prosiect Papurau Bro