Bu'r 22ain Ras Hwyl yn llwyddiant ysgubol gyda 225 redwyr a cherddwyr o bob oed ac o bob rhan o Dde Cymru yn cymryd rhan. Roedd presenoldeb Shane Williams, y dewin ar yr asgell i Gymru, Chwaraewr Rygbi'r Byd 2008, ac aelod o dim y Llewod 2009, yn amlwg wedi bod yn dynfa fawr i'r Ras. Shane oedd yn dechrau'r ddwy ras, a chafwyd cystadlu brwd ond mewn awyrgylch gynnes a chyfeillgar. Lewis Hobbs o Abertawe gipiodd gwpan y Ras agored. Rhedodd dros 4.7 milltir mewn 23 munud a 44 eiliad, dim ond un eiliad o flaen Dewi Griffiths, Llanfynydd - enillydd ras y llynedd, tra wnaeth Angharad Davies, Mithig, Llanymddyfri ennill adran y menywod (30.37).
Yn y Ras Iau (2.8 milltir), Christian Lovatt o Rydaman oedd yn fuddugol yn adran y bechgyn (17.02), tra chipiodd Rhian Jones, Llanybydder ras y merched (20.16). Ond roedd pob un o'r 225 a gymerodd ran yn enillwyr gan iddynt dderbyn crys "T" Brecon Carreg am gwbwlhau'r ras. Yn ogystal roedd crysau polo, a gyflwynwyd gan Gelli Plant ac SJ Griffiths a Mab, i'r enillwyr ym mhob adran. Roedd y tywydd yn berffaith ar gyfer rhedeg, ac fe aeth popeth yn hwylus tu hwnt. Bydd elw'r ras eleni ynghyd â'r Rhif Lwcus sydd i'w dynnu yn y Sioe, yn cael ei rannu rhwng Sioe Trap a Thriniaeth Llaw Feddygol Arbenigol Cancr y Fron gydag Ymddiriedolaeth lechyd Hywel Dda ar gyfer Gorllewin Cymru. Bydd y swm a godwyd yn cael ei gyhoeddi yn y Sioe ar y Sadwrn ola' o Orffennaf, a'r siec yn cael ei chyflwyno i'r elusen ar y noson honno. Mae'r trefnwyr yn hynod ddiolchgar am bob cefnogaeth.
|