Ganwyd ef yn Tanrallt, hen gartref ei fam, yn ardal Blaenafon ar 23ain o Ionawr 1895. Magwyd ef ar fferm Cefnhendre ym mhlwyf Blaenpennal ond wedi i'w fam farw, pan oedd e'n 6 oed, symudodd ei dad ac ef i fyw yn fferm Blaenaeron.
Disgleiriodd yn Ysgol Tanygarreg a pherswadiodd David Davies, y prifathro, i'w dad ei ddanfon i Ysgol Uwchradd Tregaron. Aeth yno ym mis Medi 1909 yn un o nifer o ddisgyblion disglair, fel W. Ambrose Bebb, Evan Jenkins, D. Lloyd Jenkins a Griffith John Williams a chafodd yr athro S.M. Powell ddylanwad mawr arno.
Dylanwadau mawr eraill arno oedd John Rowlands, Dolebolion, cymydog iddo, gŵr diwylliedig, bardd a meistr ar y gynghanedd a'r Ysgol Sul yng nghapel Blaenafon. Casglodd wybodaeth drylwyr o'r Beibl a thrwy ei fywyd bu ganddo barch mawr at y Beibl Cymraeg. Enillodd lawer o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol yn ifanc iawn a gelwid ef yn Tom Bardd neu Twm Bardd gan ei gyd-ddisgyblion yn Ysgol Tregaron. Aeth i Brifysgol Aberystwyth ym 1913 gan raddio gydag anrhydedd yn y Gymraeg ym 1916 a gwnaeth enw iddo'i hun fel siaradwr cyhoeddus effeithiol iawn yn Gymraeg a Saesneg.
Ymunodd â'r fyddin ym 1916 a gwasanaethodd yn y Gwarchodlu Cymreig yn Ffrainc hyd ddiwedd y Rhyfel Mawr. Dychwelodd i Brifysgol Aberystwyth ar derfyn y rhyfel. Ef oedd Llywydd y Gymdeithas Ddadlau Saesneg ym 1919 a Llywydd Cyngor y Myfyrwyr ym 1921. Enillodd radd M.A. ym 1922.
Wedi gadael y Coleg bu mewn amrywiol swyddi:
Ym 1922 yn Ysgrifennydd y Blaid Ryddfrydol yn sir Drefaldwyn pan oedd David Davies yn Aelod Seneddol.
Ym 1929 yn Drefnydd Cyngor Diogelwch Harddwch Cymru gyda'i swyddfa yn Aberystwyth
Ym 1932 cafodd swydd ran-amser fel Athro Cymraeg yn Ysgol Uwchradd y Drenewydd a chynhaliai ddosbarthiadau nos i oedolion.
Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd sefydlwyd panel o athrawon, gyda T. Hughes Jones yn gadeirydd, i lunio cynllun gwaith ar hanes lleol i ysgolion sir Drefaldwyn. Cyhoeddwyd hwnnw ym 1941 a chafodd dderbyniad gwresog gan y Cyngor Sir a gan siroedd eraill yng Nghymru.
Agorwyd coleg brys i hyfforddi athrawon - Coleg Addysg Cartrefle - yn Wrecsam ym 1946 a phenodwyd T. Hughes Jones yn Athro'r Gymraeg a phynciau trwy gyfrwng y Gymraeg. Cafodd ei wneud yn Ddirprwy Brifathro ym 1956 a bu'n fawr ei ddylanwad yno tan ei ymddeoliad ym 1962. Priododd Enid Bumford o Lanfair Caereinion ym 1934 a bu farw ar 11 o Fai 1966.
Er iddo ddod yn amlwg fel bardd yn ifanc iawn, ni chyhoeddodd un gyfrol o'i farddoniaeth ond daeth yn fwy enwog fel awdur straeon byrion. Eto fe erys ei gerdd "Tair Afon" ar gof llawer ohonom ers dyddiau ysgol.
Gweler "Tair Afon" yn rhan o Golofn y Beirdd Y Parchedig J. Pinion Jones
W.D.Ll
|