Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Aeron
Caryl Lewis Nofel Gyntaf Caryl
Tachwedd 2003
Nofel gyntaf merch o Ddyffryn Aeron. Dal Hi! yw teitl y nofel. Caryl Lewis yw'r awdur a Gwasg y Lolfa sy'n cyhoeddi. Bu Gwilym Thomas yn holi Caryl yn ddiweddar.

GT.: Merch a'i gwreiddiau'n ddwfn o ochor eich mam, sef y gantores canu gwlad enwog Doreen Lewis. 'Rwyf am gael gwared o'r cwestiwn cyntaf yma: Odych chi Caryl yn canu o gwbwl?

CL: Fe fues i'n canu dipyn pan yn ieuengach ac 'rwy'n dal i fwynhau cerddoriaeth yn fawr iawn. Yn bresennol, ysgrifennu sy'n mynd a'm bryd ond efallai y caf i fwy o amser i fynd ati i ganu yn y dyfodol.

CT.: D'wedwch rhywfaint amdanoch eich hunan?

CL: Cefais fy magu yn Aberaeron cyn symud yn ôl i fferm deuluol yn Nihewyd pan yn ddeuddeg. Er fy mod yn dod o Aberaeron 'roedd ffermydd y ddwy famgu yn galw ar y penwythnosau pan oedd mam yn canu, ac 'rwy'n cysidro fy hun fel merch o'r wlad. 'Roedd canu, cerddoriaeth a geiriau yn rhan annatod o'm plentyndod a hyd yn oed geiriadur yn y ty bach fel ein bod yn medru dysgu gair newydd wrth fynd i bi-pi!

GT.: Ysgol Gynradd Aberaeron ac yna ymlaen i Ysgol Uwchradd Aberaeron lle bu eich mam a'ch tad yn ddisgyblion. Oedd 'na berson a fu'n ddylanwad arnoch yn un o'r ysgolion?

CL.: 'Roedd yna ddau athro yn arbennig a wnaeth feithrin fy mlys am 'sgwennu yn Ysgol Aberaeron. Y cyntaf oedd Emyr Llewelyn, a'r ail oedd Mrs. Kay Pascoe. 'Roedd gan y ddau y ddawn i wneud ysgrifennu yn rhywbeth hwyliog ac i annog plant i fwynhau geiriau ac iaith. 'Roedd gan y ddau ddawn storïol hefyd a fyddai'n goleuo'r llyfrau gosod. Mae hynny yn ddawn arbennig ac yn medru bachu dychymyg y disgybl mwyaf anfoddog.

GT.: Dyma chi wedyn yn dewis Coleg Prifysgol Durham. A oedd 'na reswm neilltuol tros y dewis?

CL.: Mae gan Brifysgol Durham adran Saesneg arbennig o dda. 'Roeddwn i hefyd am fod yn un o'r rhain sy'n gadael fy ardal mebyd ac wedyn dychwelyd yn hytrach na'r ffordd arall. 'Roedd y ffaith fod y Brifysgol mor bell o adre yn sialens ac yn help i rywun i ddatblygu'n llawn i fel unigolyn. Weithiau mae hi' n wers dda i dyfu'n annibynnol i ffwrdd o'r gymuned glos sy'n eich cynnal ac sy'n adnabod eich 'pedigri'!

GT.: Wedi graddio'n anrhydeddus yno dyma chi'n dychwelyd i Ddyffryn Aeron. Oes 'na fwriad i droi nawr at sgrifennu amser llawn?

CL.: 'Rwy newydd orffen fy swydd llawn amser er mwyn cael canolbwyntio ar ysgrifennu. Mae hi'n anodd iawn gwneud bywoliaeth o ysgrifennu fel y cyfryw ond gobeithiaf fedru cyfuno prosiectau ysgrifennu gyda gweithgareddau eraill. 'Rwy'n edrych ymlaen i gael mwy o amser i fynd i'r ymrafael a'r grefft.

GT.: Pwy yw eich hoff nofelydd chi?

CL: Mae gen i sawl ffefryn, 'rwy'n damaid o bili pala wrth ddarllen. 'Yn y Gymraeg, Kate Roberts a Daniel Owen ac yn y Saesneg, Paulo Coelho, Frank McCourt ac wrth gwrs Jane Austen.

GT.: Eich nofel gyntaf chi Caryl. Mewn adolygiad yn Golwg (Awst 28 eleni) mae Arwel Jones yn dweud: 'Gall Caryl Lewis wneud i'w chynulleidfa chwerthin' 'Roedd Idwal Jones yn annog hynny. Odych chi yn berson eithaf hapus?

CL.: Mae arna'i ofan bod fy ngwydr i bob amser yn hanner gwag! Dydw i ddim yn optimydd naturiol ac mae gen i synnwyr digrifwch eithaf tywyll. Wedi dweud hynny, 'does dim byd yn fwy comic na bywyd bob dydd ac mae hi'n bwysig dysgu chwerthin ar ein cyflwr ni em hunain. I mi, 'does dim modd rhannu'r doniol a'r difrifol ac mae'r ddau elfen o fywyd yn goleuo'i gilydd.

GT.: Dywed Arwel Jones ymhellach eich bod 'wedi gadael bachyn ar gyfer stori arall'. Mewn geiriau eraill a oes yna nofel arall at y gweill?

CL.: Oes, mae 'na fachyn ar gyfer stori arall ac mae honno wedi ei ysgrifennu yn fy mhen yn barod. Yn bersonol, 'rwy'n hoffi llyfrau sy'n eich gadael yn pendroni am beth fydd yn digwydd i'r cymeriadau ar ôl ichi gau cloriau'r llyfr. Mae'n bosib y bydd yna ddilyniant, fe gawn ni weld! 'Rwy'n gweithio ar nofel hollol newydd ar hyn o bryd ac hefyd ar lyfrau ar gyfer plant, felly mae 'na ddigon i 'nghadw i allan o ddrygioni.

GT: Y cwestiwn olaf am y tro. A oes gennych chi ddiddordebau hamdden? Chwaraeon 'falle. Neu dynnu rhaff hyd yn oed?!

CL.: Ar ôl Dal hi! Mae pawb yn gwybod fy mod i'n hoff o dynnu rhaff. Mae cadw'n heini yn bwysig i mi oherwydd eich bod ynghlwm wrth ddesg bob dydd wrth ysgrifennu. 'Rwy hefyd yn hoff iawn o arlunio ac wedi dechrau gwerthu fy mheintiadau. Mae hynny'n rhywbeth hoffwn ei ddatblygu yn y dyfodol hefyd. Heblaw hynny, mae mynd allan i fwynhau orig fach yn y dafarn gyda'r nos a chymdeithasu yn ymlaciol iawn!

CT.: Llawer o ddiolch i chi Caryl am gael peth o'ch hanes. A beth am gyfraniad oddi wrthych i un o golofnau Llais Aeron? Croeso i chi a phob dymuniad da.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý