Aeth yr ysgol gyfan i weld pantomeim gan gwmni Mega yn Theatr y Werin yn ddiweddar. Ac aeth yr ysgol gyfan i'r sinema ar ddiwedd y tymor i weld `Santa Claus 3'. 'Roedd pawb wedi mwynhau.
Diolch i Glwb Ffermwyr Ifanc Pennant am y gwahoddiad i ymuno â nhw i ganu carolau tu allan i'r ysgol cyn y Nadolig.
Daeth Santa eleni eto i roi anrhegion i'r plant a chafwyd parti hyfryd a digon o fwyd blasus ar ddiwedd y tymor. Cawsom ein Gwasanaeth Nadolig eleni yn Eglwys Llanbadarn Trefeglwys. 'Roedd y gwasanaeth yn seiliedig ar Stori'r Geni.
Croeso mawr i ddisgyblion newydd yn nosbarth Mrs. Lloyd, sef Nicole Palmer a Steffan Evans. Gobeithio byddwch yn hapus iawn yn ein plith.
'Roedd merched dosbarth Mr. Davies wedi cymryd rhan yng nghystadleuaeth pêl rhwyd yr Urdd yn Llangrannog yn ddiweddar. Da iawn iddynt am wneud yn arbennig o dda.
Daeth yr arlunydd Helen Elliott i beintio pentref Pennant ar wal y cyntedd.
Daeth y Prifardd Cyril Jones i farddoni gyda'r disgyblion.
|