Ganwyd ef ar 4 Mawrth 1901 yn fab i David ac Elizabeth Rhys, Pentremyny' ger capel Bethel, Trefenter ac ef oedd yr ieuengaf o saith o blant.
Gôf oedd y tad a symudodd y teulu i dyddyn Morfa-du ym Mawrth 1918. Yno y deuai ei ddau gyfaill (a dau fardd) B.T. Hopkins a J. M. Edwards i ymweld ag e pan oeddent yn fechgyn ifanc.
Mynychodd Prosser Ysgol Gynradd Cofadail ond ni fu'n hapus yno hyd ei flwyddyn olaf, 1913 - 1914, pryd y daeth M.D. Morgan o Gilcennin yn brifathro ac ef a greodd ddiddordeb mewn llenyddiaeth yn Prosser a'i gefnogi i ysgrifennu.
Llwyddodd i ennill ysgoloriaeth i fynd i Ysgol Ramadeg Ardwyn Aberystwyth yn 1914 ond gorfod iddo adael ymhen blwyddyn oherwydd y dicau (tuberculosis), clefyd a'i poenodd weddill ei fywyd. Dechreuodd ysgrifennu erthyglau i r 'Cymro' a'r 'Darian' yn ifanc ar destunau fel 'Diwrnod o Eira', Mynd i Ffair Calangaeaf' a 'Cwrdd Gweddi r Mynydd'.
Aeth i Nantymoel ym mis Awst 1915 at ei frawd John, a oedd yn löwr a dechreuodd weithio fel clerc yng nglofa'r 'Ocean'. Bu yno am flwyddyn a chafodd driniaeth ddyddiol gan Dr. Thomas, meddyg medrus, a thorrwyd un o'i fysedd i ffwrdd. Oherwydd ei salwch, dychwelodd i'r Morfa-du at ei rieni o 1916 hyd 1919. Yn y cyfnod hwn bu'n brysur yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol ac oherwydd ei lwyddiant, daeth yn enwog dros gylch eang fel bardd ifanc addawol iawn. Darllenai yn eang, farddoniaeth Gymraeg a Saesneg, a dechreuodd ysgrifennu colofn wythnosol i'r 'Cymro' yn 1916.
Erbyn 1919 'roedd yn ddigon iach a chryf i fynd yn newyddiadurwr gyda'r 'Welsh Gazette' yn Aberystwyth. Nid oedd yn hapus iawn yno a chafodd swydd gyda'r 'Herald' yng Nghaernarfon yr un flwyddyn. Yn 1921 gwerthwyd 'Y Faner ac Amserau Cymru' i gwmni'r 'Cambrian News' a dychwelodd Prosser Rhys i Aberystwyth yn 1922 ac yntau ond yn 23 oed. Bu'n olygydd llwyddiannus iawn gan godi cylchrediad 'Y Faner' yn sylweddol o 1924 i 1925.
'Roedd Prosser yn llawn brwdfrydedd dros bopeth Cymraeg. Bu'n gefnogol i 'Urdd Gobaith Cymru', a sefydlwyd yn 1922 ac i 'Blaid Cymru' a sefydlwyd yn 1925. Bu'n gyd-olygydd y 'Ddraig Goch' gyda Saunders Lewis ac Iorwerth Peate.
Datblygodd yn ŵr busnes llwyddiannus. Sefydlodd y Clwb Llyfrau Cymraeg yn 1937 a Gwasg Aberystwyth. Gofynnodd am enwau pobl oedd yn barod i brynu 4 llyfr Cymraeg y flwyddyn am hanner coron yr un a bu'r cynllun yn llwyddiannus iawn. Yn olaf, prynodd 'Y Faner' a symudodd y teulu i w cartref newydd yn 33 North Parade, Aberystwyth yn 1936 gan droi r parlwr yn Swyddfa Golygydd Y Faner.
Gwaethygodd ei iechyd o 1942 i 1945 a bu yn yr ysbyty fwy nag unwaith ond daliai ati i weithio. Bu farw yn Ysbyty Aberystwyth ar 6 Chwefror 1945 yn 43 oed a chladdwyd ef ym mynwent y dref.
Er na chafodd gyfleusterau addysg ac o gofio iddo frwydro trwy ei oes yn erbyn salwch difrifol, mae'n rhyfedd cymaint a gyflawnodd mewn oes fer. Yn ei gofiant ardderchog i Prosser Rhys, dywed Richard Hinks, iddo wneud amryw o gymwynasau mawr i Gymru, golygodd bapur cenedlaethol Gymraeg; estynnodd ffiniau byd cyhoeddi Cymraeg, trwy sefydlu Gwasg Aberystwyth a Chlwb Llyfrau Cymraeg ac ychwanegodd at gyfoeth barddoniaeth Gymraeg.
Llyfr ardderchog arall sy'n rhoi cefndir Prosser Rhys a'i ffrindiau yw 'Beirdd y Mynydd Bach' (golygydd Emyr Edwards) yng nghyfres 'Bro a Bywyd'.
Mwy am Prosser Rhys yma.