Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Aeron
awst03.jpg Neuadd Goffa Llwyncelyn a'r cylch
Awst 2003
Mewn seremoni a gynhaliwyd ar Fehefin l4eg, 2003, daeth tyrfa o dros 300 o oedolion a phlant ynghyd i ddathlu'r achlysur hanesyddol o agor y Neuadd ar ei newydd wedd.

Roedd dros ddwy flynedd o weithgaredd wedi ei gwblhau er mwyn gwireddu breuddwyd y pwyllgor gweithgar. Ar y dechrau roedd y syniad o gael neuadd newydd sbon i'w weld bron yn amhosibl ac yn ffantasi llwyr. Ond penderfynwyd gwneud cais i'r Gronfa Gymunedol ac er mawr syndod i bawb ar y Pwyllgor, bu'r cais yn llwyddiannus a derbyniwyd y swm anrhydeddus o £231, 085. Wedi'r gorfoleddu, sylweddoli mai nawr roedd y gwaith i ddechrau!

Ar ôl ymgynghori a derbyn cynigion am y gwaith adeiladu, penderfynwyd rhoi'r gwaith i adeiladwyr o Lambed, sef, J.& E Woodworks, a'r Pensaer Griff Davies. Dewiswyd pedwar aelod o'r pwyllgor i adolygu'r gwaith, sef, Birian Lloyd, Cadeirydd, Bleddyn Jones, Trysorydd, Margaret James a Moelfryn Maskell. Rhaid oedd dymchwel yr hen Neuadd a oedd wedi bod yn fan cyfarfod ers dros 80 o flynyddoedd ac edrych ymlaen i'r dyfodol.

Roedd gweld yr adeilad newydd yn datblygu yn rhoi boddhâd i bawb a mwy yn cymeryd diddordeb yn y prosiect. Rhaid talu teyrnged uchel iawn i'r trysorydd gweithgar, sef, Bleddyn Jones a gymerodd at y gwaith o fod yn gysylltwr â'r Gronfa Gymunedol, yr adeiladwr a'r Pensaer. Mae dyled y Pwyllgor a'r Gymuned yn fawr iawn iddo am ei weithgarwch diflino.

Fe wawriodd diwrnod agoriad swyddogol y Neuadd ar y l4eg o Fehefin. Braf oedd gweld cymaint wedi dod ynghyd. Gofynnwyd i Miss Hannah Jones, 1 Wern, Llwyncelyn, y person hynaf yn y Gymuned i dorri'r rhuban a chyhoeddi'r Neuadd ar agor yn swyddogol. Cyflwynwyd yr allwedd iddi gan Mr. Nigel Lloyd a Mr. Griff Davies. Yn y cyntedd dadorchuddiwyd llechen gan Mr. Taha Idris, Aelod o Bwyllgor Cymru o'r Gronfa Gymunedol i nodi'r achlysur, a'r arian a dderbyniwyd.

Tu fewn i'r Neuadd, cafwyd anerchiad pwrpasol gan Hannah Jones a oedd yn medru rhoi'r hanes am ddyfodiad yr hen Neuadd i'r ardal yn 1921. Rhaid peidio anghofio'r arloeswyr cynnar a oedd wedi gweithio at aberthu mor galed i gael Neuadd ar y safle i ddechrau, heb y cyfleusterau pryd hynny a'r arian yn brin - nid oedd sôn am loteri yn 1921!

Derbyniodd Miss Jones dusw o flodau gan y Cadeirydd ar ran pwyllgor y Neuadd. Yna cafwyd anerchiad gan y Cynghorydd Stan Thomas, Cadeirydd Cyngor Ceredigion, y Cynghorydd Carys Lewis, Cadeirydd Cyngor Cymuned Henfynyw ar Parchg. Dilwyn Jones. Yn dilyn cafwyd adloniant gan blant Ysgol Penlon a wnaeth waith ardderchog. Diolch iddynt hwy a'u hathrawon a fu yn eu hyfforddi.

Cafwyd gwledd a phawb yn gwerthfawrogi eu perfformiad. Torrwyd y gacen a oedd wedi cael ei gwneud yn bwrpasol ar gyfer yr achlysur - diolch i deulu Dewi Villa amdani.Talwyd y diolchiadau gan Enidwen Jones, (Ysgrifenyddes y Neuadd). Diolchodd i bawb am ddod, i bawb oedd wedi cyfrannu, i'r merched oedd wedi gweithio mor galed yn y gegin o dan arweinyddiaeth Mrs. Davina Evans, am y bwyd oedd wedi ei roi, yr arian, at hefyd i Bleddyn Jones am arwain y Seremoni i gyd mor ddeheuig. Diolch hefyd I Miss Bethan Lloyd am fod wrth yr offeryn, ar Parchg. Dilwyn Jones am fod mor barod bob amser. Yna traddodwyd y fendith gan y Parchg. Dilwyn Jones a daeth y cyfan i ben drwy ganu Hen WIad fy Nhadau.

Yna at y byrddau a oedd yn orlawn o bob math o ddanteithion, ac aeth pawb adref yn hapus, wedi cael mwynhad.

ON. Dymuna Pwyllgor Neuadd Goffa Llwyncelyn ar Cylch ddiolch ir cyhoedd am eu haelioni er mwyn gwneud yr achlysur yma yn bosibl ac yn llwyddiant.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý